Mae defnyddio gwaith ysgolheigion o'ch maes yn eich aseiniad eich hun yn dangos eich bod yn gallu gwneud cysylltiadau rhwng eich syniadau eich hun a gwaith pobl eraill. Nid yw hyn yn golygu na ddylech gael eich syniadau eich hun; yn hytrach, dylech allu dangos sut mae eich syniadau chi'n cysylltu â gwybodaeth pobl eraill, neu'n ehangu ar honno. Os ydych yn gwneud datganiadau a honiadau heb eu gwreiddio yn eich disgyblaeth, ni fydd eich dadl yn darbwyllo . Yn yr un modd, dylech wneud yn siŵr bod y deunydd rydych yn ei ddefnyddio’n dod o ffynonellau dibynadwy, a'i fod wedi'i adolygu gan gymheiriaid - os bydd y ffynonellau'n amheus, bydd eich dadl eich hun yn llai dilys.