Mae'r paragraffau ym mhrif gorff eich aseiniad yn gweithredu fel blociau adeiladu ar gyfer eich dadl. Mae hyn yn golygu bod eu strwythur yn hollbwysig ar gyfer galluogi eich darllenydd i ddilyn y ddadl honno. Fel bod gan strwythur cyffredinol eich aseiniad ddechrau, canol a diwedd amlwg, mae pob paragraff yn meddu ar y rheini hefyd. Fel arfer, cyfeirir at y strwythur hwn fel y 'frawddeg bwnc', y 'brawddegau ategol' a'r 'frawddeg grynhoi'.
Brawddegau Pwnc
Mae’r frawddeg bwnc (rydym yn ei galw'n 'bennawd y paragraff' weithiau) yn amlinellu'r hyn y gall y darllenydd ei ddisgwyl gan weddill y paragraff; hynny yw, mae'n cyflwyno'r ddadl y byddwch yn ei gwneud ac yn rhoi awgrym o sut byddwch yn ei gwneud. Ffordd arall o feddwl am hyn yw bod y frawddeg bwnc yn dweud wrth y darllenydd beth fydd thema'r paragraff (y prif syniad sy'n tanategu'r paragraff) ac yn amlinellu'r lens y byddwch yn archwilio'r thema honno drwyddi (yr hyn y byddwch yn ei ddweud am eich prif syniad).
Mae'n ddefnyddiol i chi wirio bod pob un o'ch brawddegau pwnc wedi'i chysylltu rywsut â datganiad y gosodiad yn eich rhagarweiniad. Ydych chi'n dilyn y syniadau a nodwyd gennych yn natganiad eich gosodiad? Drwy gyfeirio'n ôl at ddatganiad y gosodiad, gallwch wneud yn siŵr bod eich dadl yn dal i ganolbwyntio ar ateb y cwestiwn (yn hytrach na chrwydro) a'ch bod yn cynnwys yr wybodaeth a gyflwynwyd gennych ar ddechrau'r aseiniad. Mewn rhai achosion, efallai na fydd y frawddeg bwnc yn cyflwyno dadl. Bydd hyn yn digwydd pan mai darparu gwybodaeth gefndirol neu ddisgrifio rhywbeth yw diben y paragraff. Mae hyn yn iawn hefyd, ar yr amod bod angen cynnwys y paragraff er mwyn cefnogi datganiad eich gosodiad mewn rhyw ffordd.
Gair i gall: Efallai nad y frawddeg bwnc fydd brawddeg gyntaf y paragraff os ydych yn cynnwys brawddeg sy'n cysylltu â'ch paragraff blaenorol, ond yn bendant dylai fod yn agos at ddechrau'r paragraff.
Brawddegau Ategol
Y brawddegau ategol yw lle byddwch yn rhoi eich prif ddadl at ei gilydd. Maent yn datblygu'r syniad a amlinellir yn eich brawddeg bwnc, ac yn cynnwys eich dadansoddiad o'r syniad hwnnw. Fel arfer, bydd eich brawddegau ategol yn cynnwys eich cyfeiriadau at y llenyddiaeth yn eich disgyblaeth y byddwch yn eu defnyddio i adeiladu eich dadl eich hun. Gallwch hefyd gynnwys ffeithiau a ffigurau, gwrthddadlau a'ch barn eich hun ynghylch pa mor ddefnyddiol yw'r llenyddiaeth ar gyfer eich pwnc. Y 'pedwar R' sy'n allweddol i ddefnyddio brawddegau ategol i greu paragraff da:
- 'Relevant' - ydy'r brawddegau penodol yn berthnasol? Dylai pob un ohonynt archwilio a datblygu'r syniad rydych wedi'i gyflwyno yn eich brawddeg bwnc.
- 'Related' - ydynt yn gysylltiedig? Er na ddylech ailadrodd yr un syniad drwy gydol paragraff, mae angen i chi wneud yn siŵr bod pob un o'ch brawddegau ategol wedi'i chysylltu. Bydd hyn yn eich helpu i roi nifer o enghreifftiau, gwrthddadlau, a dadansoddiad o thema'r paragraff. Meddyliwch am bob brawddeg ategol fel dolen yng nghadwyn eich dadl.
- 'Right order' - ydy'r brawddegau ategol yn y drefn gywir? Bydd angen i chi wneud penderfyniad gweithredol ynghylch y ffordd rydych yn cyflwyno'r ddadl yn y paragraff; er enghraifft efallai y byddwch yn cyflwyno eich ymchwil yn gronolegol, neu efallai y byddai’n well gennych drafod y ddadl ac yna'r wrthddadl (felly yn grwpio'r darnau perthnasol o wybodaeth gyda'i gilydd).
- Referenced - Ac, wrth gwrs, mae angen cyfeirnodi unrhyw syniadau nad chi sy'n meddu arnynt. Mae cyfeirnodi'n dda, yn unol â'r arddull gyfeirnodi y mae eich adran yn ei defnyddio, yn hanfodol i uniondeb academaidd.
Brawddegau Crynhoi
Mae'r frawddeg grynhoi'n bwysig oherwydd ei bod yn helpu i glymu'r dadleuon a wneir yn eich datganiadau ategol ynghyd a rhoi sylwadau ar y pwynt a wneir yn eich brawddeg bwnc. Dyma le y byddwch yn rhoi eich barn i'ch darllenydd ynghylch yr wybodaeth sydd yn y paragraff. Yn yr ystyr hwnnw, y frawddeg grynhoi yw eich casgliad ar gyfer y pwynt penodol a wneir yn y paragraff - byddwch yn dweud wrth y darllenydd pam mae'r pwynt yn bwysig ac efallai’n rhoi syniad o sut mae wedi'i gysylltu â'ch gosodiad cyffredinol.
Gair i gall: Ar ddiwedd pob paragraff, ceisiwch ofyn i'ch hunan 'Felly?': 'Felly beth yw diben yr hyn rydw i wedi'i ddweud?'; 'felly beth yw fy nghasgliad ar sail yr wybodaeth sydd yn y paragraff?' Bydd y cwestiwn hwn yn eich helpu i weld a ydych wedi bod yn feirniadol yn hytrach na disgrifiadol yn unig.