Pwy ydyn nhw

Mae'r llysgenhadon uniondeb academaidd yn dîm a arweinir gan fyfyrwyr. Gyda'i gilydd maen nhw'n penderfynu ar y ffyrdd gorau o hyrwyddo uniondeb academaidd ym mhob rhan o'r brifysgol. Mae'r llysgenhadon yn fyfyrwyr sy'n rhoi o'u hamser yn wirfoddol ac yn gweithio'n galed i greu cyfleoedd i gymryd rhan. Dyma rai ffyrdd y gallwch chi gefnogi'r rhaglen hon:

  • os oes llysgenhadon uniondeb academaidd yn eich modiwl neu'ch adran gallan nhw ofyn i chi am gyfleoedd i siarad â'r myfyrwyr. gallwch chi eu cefnogi yn hyn o beth drwy ymateb a threfnu cyfleoedd iddyn nhw, er enghraifft, neilltuo amser mewn dosbarth iddyn nhw siarad.
  • os ydych chi'n clywed am ddigwyddiadau yn y gyfadran a allai fod yn gyfle da i'r llysgenhadon ymgysylltu â myfyrwyr a staff, estynnwch wahoddiad iddyn nhw i'r digwyddiad.
  • gallwch chi weithio gyda nhw i gyd-greu adnoddau am feithrin uniondeb academaidd.
  • gallwch chi fod yn gysylltiad â'r llysgenhadon uniondeb academaidd, sy'n golygu y byddech chi'n fodlon derbyn e-byst am eu gweithgareddau a hyrwyddo eu digwyddiadau.

Eu gweithgareddau

Dyma rai o ddigwyddiadau diweddaraf y llysgenhadon:

  • trefnu tabl gwybodaeth yn ngŵyl ymchwil ôl-raddedig 2024, lle gwnaethon nhw ddosbarthu gwybodaeth am uniondeb academaidd ac ymgysylltu â myfyrwyr mewn cwis ar-lein.
  • creu gweithdy yn yr ŵyl ymchwil ôl-raddedig lle bu siaradwyr gwadd o brifysgolion eraill yn siarad am y berthynas rhwng deallusrwydd artiffisial (ai) ac uniondeb academaidd. roedd y gweithdy hwn yn cynnwys trafodaeth bwrdd crwn gyda myfyrwyr ynghylch yr hyn hoffai myfyrwyr ei weld mewn polisi ai gan y brifysgol.
  • llunio posteri gwybodaeth am sut i gynnal uniondeb academaidd mewn arholiadau.
  • dylunio nodau llyfr â dolenni i adnoddau am uniondeb academaidd.
  • cyflwyno yng nghynhadledd aldinhe 2024 am eu rhesymau dros ymuno â'r rhaglen hon a'i heffaith ar eu bywyd academaidd.
  • mynd i gaffis y rhaglen msc rheoli yn yr ysgol reolaeth i'w cyflwyno eu hunain a hyrwyddo trafodaeth am uniondeb academaidd.
  • rhoi cyflwyniadau byr i fyfyrwyr yn y coleg er mwyn siarad am wahaniaethau diwylliannol mewn uniondeb academaidd.
  • creu cynnwys ar gyfer platfformau'r cyfryngau cymdeithasol.
  • cydweithredu â'r llyfrgell i ddarparu gweithdai i fyfyrwyr ôl-raddedig am sut i ddod o hyd i adnoddau defnyddiol ar gyfer eu prosiectau ymchwil.
  • cyfrannu at gynhadledd salt 2024.

I gael rhagor o wybodaeth am sut y gallwch chi ymgysylltu â'r llysgenhadon uniondeb academaidd, e-bostiwch: academicintegrityambassadors@abertawe.ac.uk