Sesiynau astudio â chymorth cymheiriad (PASS)

Cynllun i gefnogi myfyrwyr i ddeall mewnbwn modiwlau a datblygu strategaethau dysgu da yw PASS. Y prif nodau yw:

  • Gwella dysgu
  • Gwella perfformiad myfyrwyr
  • Cefnogi’r broses o gadw myfyrwyr
  • Pontio addysg uwchradd a thrydyddol
  • Gwella strategaethau astudio myfyrwyr
  • Annog ymagwedd at ddysgu sy’n canolbwyntio ar fyfyrwyr
  • Creu rhwydweithiau o bartneriaid astudio
  • Darparu datblygiad proffesiynol ac achrediad HEAR i Arweinwyr PASS, gan wella cyflogadwyedd
- Sesiynau astudio gyda chymheiriaid a arweinir gan fyfyrwyr - Arweinwyr myfyrwyr fel modelau rôl - Gweithio drwy ddeunydd cyrsiau - Datblygu strategaethau dysgu da - Gwella meddylfryd o dyfu

Sut mae’n gweithio

Y nod yw sefydlu sesiynau astudio a hwylusir ochr yn ochr â modiwlau a dargedir. Neilltuir Goruchwylydd i Arweinwyr Myfyrwyr PASS ac maent yn derbyn hyfforddiant cynhwysfawr a chefnogaeth barhaus gan y Ganolfan Llwyddiant Academaidd (CAS). Mae’r Arweinwyr Myfyrwyr yn gweithio’n agos gyda’u Goruchwylydd PASS a darlithydd y modiwl. Mae’r Arweinwyr Myfyrwyr hyfforddedig yn hwyluso grwpiau astudio i gymheiriaid ond nid ydynt yn disodli addysg nac yn gweithredu fel cynorthwywyr addysgu.