Tîm o fyfyrwyr yw'r ymgynghorwyr mathemateg ac ystadegaeth, sydd â'r nod o ddefnyddio eu gwybodaeth am y pynciau hyn a'u profiad ohonynt i helpu eu cyd-fyfyrwyr gyda'u problemau Mathemateg ac Ystadegaeth. Gall myfyrwyr drefnu apwyntiadau un i un gyda'n hymgynghorwyr mathemateg ac ystadegaeth neu fynd i sesiynau galw heibio wythnosol ar y ddau gampws. Mae'r ymgynghorwyr mathemateg ac ystadegaeth yn gweithredu fel rhwydwaith cymorth cymheiriaid sy'n hawdd mynd ato ar gyfer myfyrwyr y mae angen cymorth arnynt gyda'u hastudiaethau.