Mae Casgliad Maes Glo De Cymru yn cynnwys llawer o ddeunydd sy'n ymwneud â streiciau ac anghydfodau yn y diwydiant glo, yn bennaf mewn perthynas ag undebau llafur megis Ffederasiwn Glowyr De Cymru ac Undeb Cenedlaethol y Gweithwyr Glo (Ardal De Cymru).
- Streiciau'r Glowyr 1910-11, gan gynnwys Tonypandy
- Streiciau'r Glowyr 1972 a 1974
- Streic y Glowyr 1984-5
Ceir deunydd hefyd sy'n ymwneud â chynnwrf cenedlaethol, yn ogystal ag anghydfodau undebau llafur eraill.
- Y Cynnwrf Llafur Mawr, 1910-14
- Y Streic Gyffredinol, 1926
- Y Gorymdeithiau Newyn, 1926
Yn ogystal â chofnodion ysgrifenedig, ceir casgliad sylweddol o ffotograffau yn yr archifau sy'n portreadu amrywiaeth o streiciau ac anghydfodau. Ategir hyn gan ddeunydd cyhoeddedig, hanesion llafar ac eitemau yn Llyfrgell Glowyr De Cymru.