Hollingdale: Y Dyn a'i Gyfieithiadau o Athroniaeth
Yn ystod ei fywyd, nid oedd Friedrich Nietzsche (1844-1900) yn adnabyddus iawn; fodd bynnag, ers hynny mae wedi dod yn un o athronwyr enwocaf yr ugeinfed ganrif, y mae ei syniadau wedi dylanwadu ar waith Thomas Mann, Samuel Beckett a Martin Heidegger. Gan adlewyrchu'r twf hwn yn ei boblogrwydd ac yn y diddordeb ynddo, mae'r ysgolheigion a'r cyfieithwyr a oedd yn awyddus i sicrhau bod ei waith ar gael i'r byd nad yw'n siarad Almaeneg yn ddi-rif. Serch hynny, mae Reginald John Hollingdale (1930-2001) yn flaenllaw yn eu plith ac mae ei gyfieithiadau nodedig yn uchel eu parch. Er ei fod fwyaf adnabyddus am ei waith am Nietzsche, sy'n cynnwys bywgraffiadur gwreiddiol (Nietzsche: The Man and his Philisiophy) a chanllaw astudio, roedd Hollingdale hefyd yn cyfansoddi traethodau ysgolheigaidd, yn traddodi darlithoedd ac yn ysgrifennu straeon byrion; bu'n gweithio fel newyddiadurwr i The Guardianac yn cyfieithu gwaith gan Theodor Fontane, Johann Wolfgang von Goethe ac Wolfe Lepenies. Ar ôl ei farwolaeth yn 2001, etifeddodd ei deulu gasgliad trefnus dros ben o wahanol ddrafftiau o'i waith, yn ogystal â chasgliad yr un mor drefnus o ohebiaeth. Erbyn hyn, mae'r papurau hyn yn rhan o Archifau Richard Burton Prifysgol Abertawe ac, yn haf 2015, cefais y dasg o gynorthwyo wrth gatalogio'r casgliad.
Dechreuais gyda'r llawysgrifau, a roddodd gyfle i mi ddarllen rhannau o'r cyfieithiadau, cyflwyniadau Hollingdale a'i stori fer, Montemo in Gondola. Drwy ddarllen ei waith, dechreuodd syniad o'i bersonoliaeth ffurfio yn fy mhen, yn seiliedig ar ei ddewis o eiriau a'i ffordd o lunio arsylwad: byreiriog, digrif, sych. Er enghraifft, yn ei gyflwyniad i Before the Storm, nofel gan Fontane, lle, yn ôl Hollingdale: ‘the action contained in a six week period is divided into no fewer than 81 chapters’, mae'n dweud: ‘until the final quarter of the book, there is hardly any action – so little, indeed, that when so trivial an incident as the nocturnal break-in at a manor house at Hohen-Vietz occurs in the 31st chapter the author entitles the chapter “something happens”’ (Hollingdale 1985) sylw a ysgogodd chwerthin tawel o'm cornel i o'r ystafell ddarllen. Cadarnhawyd y llun hwn a oedd yn dechrau datblygu gan ei ohebiaeth. Mae maint y casgliad hwn yn dangos ei drylwyredd eithriadol gan ei fod wedi cadw bron pob llythyr a dderbyniodd ers 1977, yn ogystal â chopïau o'r rhai yn ei law ef. Drwy ddidoli a chatalogio llythyrau i/oddi wrth gyhoeddwyr, ffrindiau, cydweithwyr, ei gyn-wraig a'i ddau blentyn, rhoddwyd cnawd ar esgyrn y ffigur academaidd i greu darlun o'r dyn. Yr agwedd hon ar y broses a oedd fwyaf diddorol i mi. Fel myfyriwr sy'n canolbwyntio ar 'gyffesu' yn ei ymchwil, daeth y syniad i'm meddwl mai ffurf casgliad Hollingdale (wedi'i ffeilio mewn bocsys, pob un â rhif a mynegai) oedd y rheswm ei fod yn ddarllenadwy: hynny yw, nid yw'r papurau hyn yn gasgliad o loffion bywyd na fwriadwyd iddo erioed gael ei weld; darnau o jig-so iddynt y bwriadwyd iddynt gael eu gweld a'u dehongli gan eraill.