Priordy Dewi Sant yw'r eglwys Gatholig Rufeinig hynaf yn Abertawe. Fe'i hadeiladwyd ar safle eglwys gynharach a sefydlwyd tua 1808. Adeiladwyd eglwys newydd Dewi Sant gan y Tad Charles Kavanagh (bu farw ym 1856) ym 1847, yn ogystal â'r ysgol Gatholig gyfagos ag Eglwys Dewi Sant. Ehangwyd Eglwys Dewi Sant ac adeiladwyd tŷ offeiriad newydd ym 1864. Daeth y rhan fwyaf o'r plwyfolion o ardal Greenhill, felly daeth yn hanfodol adeiladu eglwys yno ac, ym 1866, agorwyd Eglwys San Joseff. Ym 1873, daeth urdd fynachaidd St Benedict yn gyfrifol am y plwyf a dyrchafwyd Eglwys Dewi Sant i Statws Priordy Cenhadol. Ym 1875, daeth Eglwys San Joseff yn Genhadaeth annibynnol ac agorwyd eglwys newydd, fwy sylweddol ym 1888. Heddiw, mae'r genhadaeth wedi'i rhannu'n ddau ranbarth, Dewi Sant, sy'n gyfrifol am y Catholigion yn yr ardal i'r de i Stryd Croft a Stryd Thomas, ac Eglwys San Joseff sy'n gyfrifol am y Catholigion i'r gogledd i'r llinell hon.
Mae'r casgliad hwn yn cynnwys gwledd o ddeunydd ar gyfer mathau amrywiol o ymchwil. Mae'r dogfennau yn cynnwys:
- Cofrestri Plwyf, 1808-1982
- Cofnodion gwasanaethau eglwys, 1862-1982
- Cofnodion ariannol, 1876-1973
- Cofnodion am adeiladau'r eglwys, c.1808-1960
- Memoranda a dogfennau plwyfol amrywiol (gan gynnwys deunydd sy'n ymwneud â hanes yr Eglwys Gatholig Rufeinig yn Abertawe a de Cymru), c 1808-1985
- Cofnodion Ysgol Dewi Sant, 1855-c. 1983
- Deunydd sy'n ymwneud ag eglwysi cangen, gan gynnwys Eglwys San Joseff (Greenhill), 1870-1945, Eglwys ac Ysgol Illtud Sant (Danygraig), c. 1870-1953 ac Eglwys St Benedict (Sgeti) 1921-1936