I bob golwg, roedd hyn yn eithaf poblogaidd o gwmpas y 1800au hwyr, yn y gwaith tun o leiaf. Gellir gweld cofnodion y gweithredu diwydiannol yn llyfrau cofnodion y Cyfarfodydd Cyffredinol ac o fewn y cofnodion Cyflogau. Mae cofnodion streic 1874 yn arbennig o ddiddorol. Gwnaeth yr anghydfodau bara o ddiwedd mis Mawrth hyd at ddechrau mis Gorffennaf. Sefydlwyd y Gymdeithas Annibynnol ar gyfer Gwneuthurwyr Tunplat gan y gweithwyr yn 1873, a’r undeb hwn a oedd yn cyflwyno cais i’r meistri am gyfraddau cyflog newydd, a arweiniodd at gload allan 1874. Daeth y frwydr i ben gyda buddugoliaeth i’r meistri fel y gwelir yn y cofnodion Cyflogau, gyda’r dynion yn gweithio am ddeuddydd heb gael eu talu. Fodd bynnag, cafodd y gweithwyr ryw fudd o’r gweithredu diwydiannol gan iddo arwain at “Restr 1874” a oedd yn rhestr gyflogau unffurf a gyflwynwyd i gywiro’r amrywiaeth yn yr ystod gyflogau.
Arweiniodd hefyd at sefydlu Cymdeithas Gweithgynhyrchwyr Tunplat Sir Forgannwg a Sir Gaerfyrddin ym mis Mai 1874. Yr undeb hwn a greodd y Rhestr ac a sicrhaodd ddarpariaeth i'r cwmnïau pe byddai streiciau yn y dyfodol. Tua diwedd y bedwaredd ganrif ar hugain, cafwyd gweithredu diwydiannol eto ym 1894 ac ym 1895. Ceir tystiolaeth am y ddwy streic hyn yn Adroddiadau Blynyddol y Cyfarwyddwyr 1868-1926 ac yn Llyfrau Agendâu cyfarfodydd y cyfarwyddwyr 1892-96. Parodd streic 1894 chwe wythnos ac fe'i galwyd o ganlyniad i gais y meistri i'r gweithwyr dderbyn toriad cyflog o 25%. Mae streic 1895 hefyd yn gysylltiedig â chyflogau pan wrthododd y meistri gais y dynion am godiad cyflog oherwydd cyflwr gwael parhaus y farchnad.