Mae’r llyfrgell yn cynnig gwasanaeth Cais a Chasglu newydd er mwyn rhoi i fyfyrwyr presennol a staff fynediad hawdd i lawer o’n heitemau. Gellir rhoi cais ar eitemau ar-lein neu drwy gysylltu â thîm Llyfrgell MyUni, a gellir casglu eitemau o unrhyw un o'n llyfrgelloedd.

Os ydych yn rhoi cais ar eitem sydd ar gael ar y silff yn un o'n llyfrgelloedd, rhoddir yr eitem ar gael i chi i'w casglu o'ch llyfrgell ddewisedig. Os ydy pob copi o'r eitem eisoes wedi’u fenthyg neu'u neilltuo ar gyfer benthycwyr eraill, cedwir y copi nesaf sydd ar gael ar eich cyfer, i'w casglu o'ch llyfrgell ddewisedig, pan ddychwelwyd yr eitem gan y benthyciwr cyfredol.

Gallwch hefyd benthyg eitemau o'r llyfrgell heb roi cais yn gyntaf, os oes well gennych wneud hynny - croeso i chi i ddod mewn a phori'r silffoedd!

Myfyriwr yn eistedd wrth ddesg gyda llyfrau yn y llyfrgell

Rhoi cais ar eitemau

Gallwch wneud cais am eitem ar-lein drwy fewngofnodi i'ch cyfrif iFind a chwilio am yr eitem sydd ei angen arnoch. Wedi i chi dod o hyd i'r eitem yn y rhestr o ganlyniadau, cliciwch ar y teitl i agor y cofnod llawn. Os ydy'r eitem yn gymwys, byddwch yn gallu rhoi cais ar yr eitem a dewis eich lleoliad casglu.

Sylwch: rhaid eich bod chi wedi mewngofnodi i'ch cyfrif iFind er mwyn i'r opsiwn Cais ymddangos ar gofnod yr eitem.

Croeso i chi gysylltu â thîm Llyfrgell MyUni os oes angen unrhyw cymorth pellach arnoch gyda gwneud ceisiadau neu gael mynediad at ddeunyddiau llyfrgell.

Myfyriwr gyda llyfr a silffoedd llyfrau yn y cefndir

Casglu eitemau

Anfonir neges e-bost atoch pan fod eich eitem ar gael i’w chasglu. Bydd y neges e-bost hon yn cynnwys côd cyfeirio ar gyfer casglu, y bydd arnoch chi ei angen er mwyn dod o hyd i’ch eitem ar y silffoedd Cais a Chasglu. Bydd yr e-bost yn cadarnhau’r llyfrgell lle bydd eich eitem ar gael i’w chasglu - sicrhewch mai hwn yw’r lleoliad roeddech chi’n ei ddisgwyl cyn i chi fynd i’r llyfrgell. Bydd y neges e-bost hefyd yn rhoi'r dyddiad terfyn ar gyfer casglu'r eitem.

Dewch â’ch cerdyn adnabod prifysgol gyda chi i’r llyfrgell, a’r côd cyfeirio ar gyfer casglu.

Wedi i chi dod o hyd i'ch eitem ar y silffoedd Cais a Chasglu, bydd angen i chi benthyg yr eitem i'ch cyfrif llyfrgell, drwy ddefnyddio'r ciosg hunan-fenthyca.