Ysgoloriaethau mathemateg

Student in Library

am ein ysgoloriaethau adrannol

Mae Adran Mathemateg Prifysgol Abertawe yn bwriadu cynnig gwobrau / ysgoloriaethau Mathemateg sy'n werth hyd at gyfanswm o £3000 i fyfyrwyr sy'n dechrau eu hastudiaethau prifysgol ym mis 12th Medi 2025. Caiff y gwobrau eu dyfarnu ar sail arholiad cystadleuol, dwy awr a hanner . Dylai myfyrwyr allu sefyll yr arholiad yn eu hysgol neu goleg. Os hoffech chi gymryd yr arholiad, gwnewch Abertawe un o'ch dewisiadau ar eich ffurflen UCAS a byddwn yn cysylltu â chi am yr arholiad pan fyddwn wedi derbyn y ffurflen.

Dylai unrhyw un sydd â diddordeb mewn cymryd yr arholiad ysgoloriaeth ddychwelyd y ffurflen gais: Maths Scholarship Exam Application form 2025

Neu e-bostiwch: maths-scholarships@swansea.ac.uk 

Gallwch lawrlwytho papur arholiad 2024 yma: Maths Scholarship Exam Paper 2024

Nodyn: Bydd y Brifysgol hefyd yn cynnig nifer o Fwrsariaethau Rhagoriaeth gwerth £3,000 i fyfyrwyr sy'n derbyn canlyniadau AAA yn eu Safon Uwch (Lefel A neu gyfwerth) a £2,000 i fyfyrwyr sy'n derbyn canlyniadau AAB yn eu Safon Uwch (Lefel A neu gyfwerth). Am ragor o wybodaeth ewch i: https://www.swansea.ac.uk/cy/israddedig/ysgoloriaethau/ysgoloriaethau-rhagoriaeth/

ENILLYDD YSGOLORIAETH 2022/2023

Rebecca Gicquel

Rebecca Gicquel o Goleg Caerwysg yn Nyfnaint

"Gan nad oeddwn i wedi astudio mathemateg ar lefel Safon Uwch, roeddwn i'n bryderus am ddechrau fy ngradd. Newidiodd hyn yn llwyr pan dderbyniais yr ysgoloriaeth mathemateg ac roeddwn i'n gallu dechrau fy nghwrs gyda hyder newydd. Rydw i mor ddiolchgar fy mod i wedi derbyn yr ysgoloriaeth hon; edrychaf ymlaen at astudio mathemateg gyda'r hyder mae wedi'i roi imi."

GRACE THOMAS O GOLEG GŴYR

"Roedd ennill ysgoloriaeth Mathemateg Prifysgol Abertawe yn gyfle anhygoel ac rwyf mor ddiolchgar. Yn ogystal â lleihau'r baich ariannol rywfaint, gwnaeth hefyd fy ngalluogi i archwilio rhai o'r damcaniaethau cymhleth y byddwn yn eu hastudio.  Mae'r gydnabyddiaeth a'r cadarnhad y mae'r ysgoloriaeth wedi'u rhoi i mi wedi rhoi hwb mawr i'm hunan-barch, gan wneud i mi deimlo'n ddigon hyderus i fynd i’r afael â chwestiynau mwy heriol mewn mathemateg.    Mae'n eich atgoffa bod gwaith caled yn talu ar ei ganfed a byddwn i'n bendant yn argymell bod pawb sy'n ystyried astudio mathemateg ym Mhrifysgol Abertawe yn  cymryd rhan."

Grace Thomas