Gwybodaeth Bwysig

Wrth ddewis eich opsiynau blwyddyn dramor, mae'n bwysig ystyried amrywiaeth o ffactorau i'ch helpu i ddewis y lleoliad iawn i chi.

  • Dim ond y ddolen a roddir ddylech chi ei defnyddio i weld  eich opsiynau blwyddyn dramor, mae'r rhain yn benodol i'ch meysydd pwnc, felly ymchwiliwch yn ofalus i'ch opsiynau
  • Darllenwch ein tudalennau gwlad am ragor o wybodaeth am astudio ym mhob gwlad - mae'r penawdau isod yn ddolenni i'r rhain
  • Darllenwch ein tudalennau am bartneriaid i gael gwybodaeth am bartneriaid penodol, e.e. costau byw, gofynion etc - ceir dolenni i'r rhain isod
  • Byddwch yn realistig am gostau byw a'ch cyllideb - ymchwiliwch i'r holl gostau cysylltiedig (er enghraifft, teithio, fisâu, yswiriant...) i wirio pa opsiynau yw'r rhai mwyaf addas
  • Edrychwch ar ein Tudalen Cyllid i gael gwybodaeth am eich benthyciad myfyriwr a bwrsariaethau sydd ar gael
  • Ar gyfer Blwyddyn Dramor 2025/26, mae'r gwledydd canlynol yn gymwys am gyllid Taith - yr Unol Daleithiau, Canada, Ffrainc, Sbaen, Hong Kong, De Korea, yr Iseldiroedd. Fodd bynnag, os ydych chi'n dewis gwlad sy'n gymwys am gyllid Taith, nid yw hyn yn warant y caiff cyllid ei ddyfarnu i chi. Mae'r cyllid yn gyfyngedig a rhoddir blaenoriaeth i fyfyrwyr sy'n bodloni meini prawf ehangu cyfranogiad - er nad oes sicrwydd.
  • Gwiriwch addasrwydd ar gyfer eich maes pwnc drwy adolygu’r catalogau cyrsiau/modiwlau a gwirio am unrhyw gyfyngiadau - efallai y bydd angen i chi edrych y tu allan i'ch maes pwnc am fodiwlau perthnasol
  • Ystyriwch opsiynau llety - gall llety ar y campws fod yn gyfyngedig neu ddim ar gael o gwbl

Dewisiadau Blwyddyn Dramor 2025/26

Llawlyfr Blwyddyn Dramor 25-26

Student sat on bridge