Amcangyfrif y costau ar gyfer pob myfyriwr: Oddeutu £900 y myfyriwr neu oddeutu £500 y myfyriwr sy'n gymwys am y cynllun Ehangu Cyfranogiad
Mae hwn wedi'i seilio ar amcangyfrif o gostau cyffredinol sy'n werth £3,335
- Cost y rhaglen ar gyfer 4 wythnos:£1,895 sy'n cynnwys
- Casglu o'r maes awyr
- Llety
- rhai o brydau
- gweithgareddau diwylliannol
- teithio domestig
- Amcangyfrif y costau ychwanegol: £1,440 sy'n cynnwys:
- cost dybiedig hedfan - £1,120
- fisa - £220
- cyfarpar - £100
- efallai y bydd costau ychwanegol gennyt nas rhestrir uchod
Amcangyfrifwyd costau ychwanegol ar gyfer mis Tachwedd 2023 a gall y rheiny gynyddu/leihau. Efallai bydd angen i fyfyrwyr dalu costau ychwanegol nas nodir uchod. Amcangyfrifon yw'r ffigurau uchod a gallant newid.
CYLLID SYDD AR GAEL
- Mae cyllid ar gael sy'n werth £2,435 y myfyriwr neu £2,835 y myfyriwr sy'n gymwys am y cynllun Ehangu Cyfranogiad
Gwybodaeth Ychwanegol
- Nid ydym yn argymell dy fod yn ymrwymo'n ariannol i'r rhaglen sy'n well gennyt tan dy fod wedi derbyn cadarnhad o gyllid a rhagor o arweiniad gan Brifysgol Abertawe.
- Ti fydd yn gyfrifol am dalu'r ffi gofrestru o £195 yn uniongyrchol i Think Pacific ac nid oes modd ad-dalu’r ffi hon.
- Gall cyllid gael ei ddarparu gan Taith, Turing neu gyllid Go Global.
- Ni fydd diwrnodau rhaglen ar ôl 31 Awst 2024 yn cael eu hariannu.
- Os byddi di'n methu â chwblhau'r rhaglen, bydd gofyn i ti ddychwelyd unrhyw gyllid rwyt ti wedi ei dderbyn a byddi di'n gyfrifol am ad-dalu cost rhaglen Think Pacific i Brifysgol Abertawe.
- Gellir dod o hyd i wybodaeth am godi arian i helpu i dalu'r costau ar wefan Think Pacific