Amcangyfrif y costau ar gyfer pob myfyriwr: Oddeutu £1,000 y myfyriwr neu oddeutu £600 y myfyriwr sy'n gymwys am y cynllun Ehangu Cyfranogiad
Mae hwn wedi'i seilio ar amcangyfrif o gostau cyffredinol sy'n werth £3,825:
- Cost y rhaglen ar gyfer 4 wythnos: £2,140 sy'n cynnwys:
- Blaendal nad oes modd ei ad-dalu sy'n werth 450 o ewros
- Cofrestru
- Deunyddiau dysgu ac addysgu
- Defnyddio cyfleusterau chwaraeon a hamdden (gan gynnwys gwersi pêl-foli a bordhwylio)
- Yr holl wibdeithiau a gynllunnir.
- Amcangyfrif y costau ychwanegol: £1,685 sy'n cynnwys:
- Llety (sy'n cynnwys llety a phob pryd bwyd) - £1,460
- Ffi Undeb Myfyrwyr Awstriaidd Gorfodol - £20
- Cost dybiedig hedfan - £205
- Efallai y bydd costau ychwanegol gennych nas rhestrir uchod.
Amcangyfrifwyd costau ychwanegol ar gyfer mis Chwefror 2024 a gall y rheiny gynyddu/leihau. Efallai bydd angen i fyfyrwyr dalu costau ychwanegol nas nodir uchod. Amcangyfrifon yw'r ffigurau uchod a gallant newid.
CYLLID SYDD AR GAEL
- Mae cyllid ar gael sy'n werth £2,825 y myfyriwr neu £3,225 y myfyriwr sy'n gymwys am y cynllun Ehangu Cyfranogiad
Mae cyllid ar gael i gefnogi 4 myfyriwr cymwys o Brifysgol Abertawe ar gyfer y rhaglen 4 wythnos.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Nid ydym yn argymell eich bod yn ymrwymo'n ariannol i'r rhaglen sy'n well gennych tan eich bod wedi derbyn cadarnhad o gyllid a rhagor o arweiniad gan Brifysgol Abertawe.
- Mae cyllid ar gael ar gyfer y rhaglen 4 wythnos yn unig.
- Chi fydd yn gyfrifol am dalu'r ffi gofrestru o 450 o ewros yn uniongyrchol i Brifysgol Vienna ac nid oes modd ad-dalu’r ffi hon.
- Chi fydd yn gyfrifol am dalu ffi'r rhaglen i Brifysgol Vienna.
- Gall cyllid gael ei ddarparu gan Taith, Turing neu gyllid Ewch yn Fyd-eang.
- Ni fydd diwrnodau rhaglen ar ôl 31 Awst 2024 yn cael eu hariannu.
- Os byddwch yn methu â chwblhau'r rhaglen, bydd gofyn i chi ddychwelyd unrhyw gyllid rydych chi wedi ei dderbyn. Sylwer ar bolisi Canslo ac Ad-dalu Prifysgol Vienna:Canslo ac Ad-dalu (univie.ac.at).
- Os byddwch yn derbyn cyllid, caiff hwn ei dalu unwaith ein bod ni wedi cael cadarnhad eich bod chi wedi cyrraedd yn Vienna.Mae'n bwysig eich bod yn ystyried hyn wrth gyllidebu.
- Mae Prifysgol Vienna yn cynnig nifer gyfyngedig o Ysgoloriaethau (univie.ac.at)ar gyfer y rhaglen hon. Os dyfernir ysgoloriaeth i chi gan Brifysgol Vienna, rho wybod am hyn i dîm Ewch yn Fyd-eang drwy e-bostio studyabroad@abertawe.ac.uk