Mae Prifysgol Trent wedi'i lleoli yn Peterborough Ontario ger y Llynnoedd Mawr a dim ond 90 munud mewn car i ffwrdd o Toronto. Gallwch chi ddisgwyl profi'r pedwar tymor pan fyddwch chi yn Trent o hafau cynnes i aeafau oer gyda digon o eira. Mae Prifysgol Trent wedi'i rhestru ymhlith y 3.4% o brifysgolion orau yn y byd a phrifysgol israddedig orau Ontario. Mae dros 100 o glybiau myfyrwyr yn Trent felly gallwch chi wir gymryd rhan ym mywyd y Brifysgol ac fel rheol mae myfyrwyr yn gallu cael mynediad i lety ar y campws.

Ni fydd modd treulio blwyddyn dramor yn y brifysgol hon os oes gennych asesiadau, megis arholiadau atodol neu wedi'u gohirio, yn ystod cyfnod asesu mis Awst ym Mhrifysgol Abertawe.

 Myfrywyr sy'n astudio gyda'i gilydd

Stori Myfyrwyr

Myfyrwyr yn dal fflag