Mae Prifysgol Victoria (UVic) yn Victoria, sef prifddinas British Columbia ar frig Ynys Vancouver. Mae Victoria yn gartref i’r gaeafau mwyaf cynnes yng Nghanada, ond peidiwch â phoeni, mae digon o gyfleoedd i wneud chwaraeon eira gerllaw! Mae UVic ymysg y 250 o brifysgolion gorau yn y byd, sy’n cynnig digon o brofiad ymarferol fel y gallwch fanteisio i’r eithaf ar eich cwrs. Mae llety ar y campws ar gael yn UVic, ac mae digon o gyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol.
Ni fydd modd treulio blwyddyn dramor yn y brifysgol hon os oes gennych asesiadau, megis arholiadau atodol neu wedi'u
gohirio, yn ystod cyfnod asesu mis Awst ym Mhrifysgol Abertawe.