Mae gan Wilfrid Laurier ddau gampws yn Ontario – mae’r cyntaf yn Waterloo a’r ail yn Brantford. Mae’r ddau yn agos at y llynnoedd mawr a Toronto mewn car. Golden Hawks yw’r enw a roddir ar fyfyrwyr yn Waterloo. Gallwch ddisgwyl profi pob un o’r pedwar tymor pan fyddwch yn Wilfrid Laurier – o hafau cynnes i aeafau oer. Mae’r cyfarwyddwyr yn Laurier wedi’u cydnabod am eu hymroddiad, eu hymgysylltiad a’u hangerdd am addysgu, gan roi amgylchedd ardderchog i chi ddysgu ynddo. Mae llety ar gael ar y campws i fyfyrwyr cyfnewid.
Ni fydd modd treulio blwyddyn dramor yn y brifysgol hon os oes gennych asesiadau, megis arholiadau atodol neu wedi'u
gohirio, yn ystod cyfnod asesu mis Awst ym Mhrifysgol Abertawe.