Lleolir Ysgol Fusnes ESC Rennes yn Rennes, sef prifddinas Llydaw yng ngorllewin Ffrainc. Mae'n 1 awr a 25 munud yn unig o Baris ar drên cyflym y TGV, ac 1 awr o Lundain ar awyren, a bydd myfyrwyr yn elwa o amgylchedd trefol a diwylliannol sy'n canolbwyntio ar chwaraeon ac sy'n cynnwys: cyfleusterau chwaraeon modern, sinemâu, theatrau, canolfannau diwylliannol, amgueddfeydd, llyfrgelloedd, bwytai a thafarnau. Ystyrir Ysgol Fusnes Rennes fel Ysgol Reolaeth fwyaf rhyngwladol Ewrop, a chan ei bod wedi derbyn achrediad gan dri chorff (Equis, AACSB ac AMBA), mae'n uchel ei pharch fel ysgol fusnes. Mae Ysgol Fusnes Rennes yn helpu myfyrwyr cyfnewid i ddod o hyd i lety addas yn y ddinas.
Ni fydd modd treulio blwyddyn dramor yn y brifysgol hon os oes gennych asesiadau, megis arholiadau atodol neu wedi'u
gohirio, yn ystod cyfnod asesu mis Awst ym Mhrifysgol Abertawe.