Mae Université Charles-de-Gaulle-Lille 3 wedi'i lleoli yn Lille, dinas ganolig ei maint yn rhanbarth Nord-Pas de Calais yng ngogledd Ffrainc. Mae gan Lille gefndir diwydiannol cryf, ond mae'n fwy adnabyddus yn Ffrainc am ganol prydferth y ddinas a'i bywyd diwylliannol bywiog iawn. Mae ganddi boblogaeth fawr o fyfyrwyr. Mae gan Lille gysylltiadau trên da iawn, ac mae Llundain, Paris, Calais, Bruges a Brwsel oll yn hawdd eu cyrraedd. Mae'r brifysgol wedi'i lleoli yn ardal ddeheuol Lille ac mae ei hysbryd deinamig yn denu llawer o fyfyrwyr cyfnewid. Gall myfyrwyr wneud cais am lety prifysgol drwy CROUS, ond dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ac ni ellir eu gwarantu. Fodd bynnag, mae nifer o opsiynau eraill a gall y brifysgol helpu myfyrwyr i chwilio am lety.
![Myfyrwyr yn astudio gyda'i gilydd](/cy/mynd-yn-fyd-eang/cyfleoedd-byd-eang/prifysgolion-partner/ffrainc/universite-charles-de-gaulle-lille-3/generic-partner-page-image-%2817%29.jpg)