Lleolir Université de Savoie yn Chambéry, tref brydferth yn rhanbarth Rhône-Alpes yn Ffrainc. Chambéry yw man geni a phrifddinas hanesyddol Savoie ac mae wedi'i lleoli rhwng Geneva, Turin, Lyon a Grenoble, ar y ffin â'r Swistir a'r Eidal. Mae digon o gyfleoedd i ddarganfod yr ardal brydferth hon a mwynhau'r hyn sydd ganddi i'w gynnig. Mae llu o ddigwyddiadau diwylliannol a chwaraeon y gellir cymryd rhan ynddynt fel y theatr, sinema, cerddoriaeth, pêl-law, pêl foli, sgïo...mae'r rhestr yn ddiddiwedd. Gall gwasanaethau preswyl y brifysgol eich helpu i chwilio am lety, a chynghorir myfyrwyr i wneud cais yn gynnar er mwyn sicrhau bod ystafell ar gael ar eu cyfer ar y campws. Fel arall, gall y brifysgol helpu myfyrwyr i ddod o hyd i lety arall.
Ni fydd modd treulio blwyddyn dramor yn y brifysgol hon os oes gennych asesiadau, megis arholiadau atodol neu wedi'u
gohirio, yn ystod cyfnod asesu mis Awst ym Mhrifysgol Abertawe.