Mae Toulouse (neu ‘La Ville Rose’ – y Ddinas Binc – fel y'i gelwir) yn ddinas a leolir ar lannau afon Garonne yn ne-orllewin Ffrainc, ger mynyddoedd y Pyrenees yn rhanbarth Midi-Pyrenées, hanner ffordd rhwng Môr Iwerydd a Môr y Canoldir. Toulouse yw'r bedwaredd ddinas fwyaf yn Ffrainc ar ôl Paris, Marseille a Lyon ac mae'n adnabyddus fel dinas rygbi a fioledau. Mae Toulouse yn brifysgol ar gyfer y rheini sy'n frwd dros chwaraeon gyda thros 33 o wahanol chwaraeon ar gael ar bob lefel. Mae'n cynnig sîn gelfyddydol a diwylliannol gref hefyd. Mae llety ar gael ar y campws drwy CROUS ond ni ellir ei warantu felly dylai myfyrwyr wneud cais cyn gynted â phosibl. Gall y brifysgol hefyd roi cyngor ar opsiynau eraill ar gyfer llety oddi ar y campws.

Myfrywyr sy'n astudio gyda'i gilydd