Lleolir Prifysgol Gatholig Louvain yn Louvain-la-Neuve, sydd mewn rhan o Wlad Belg sy’n siarad Ffrangeg. Tref eithaf diweddar yw Louvain a sefydlwyd ym 1969, a gafodd ei chreu i gynnal y Brifysgol. Mae gan Louvain gysylltiadau da ac fe’i lluniwyd yn ddinas i gerddwyr – felly ni fydd angen i chi gerdded mwy nag 20 munud i gyrraedd lle mae angen i chi fod yn Louvain!Yn ddinas sy’n canolbwyntio ar fyfyrwyr, mae’n fforddiadwy a hi yw’r dref barti fwyaf i fyfyrwyr yng Ngwlad Belg. Cynhelir digwyddiad beicio 24 awr yno ac mae mwy na 50,000 o fyfyrwyr yn cymryd rhan bob mis Hydref.Cynghorir myfyrwyr i ddechrau chwilio am lety yn gynnar, a gall y Brifysgol helpu gyda hyn. Awgrym Euraidd: Cofiwch beidio â drysu rhwng Louvain a Leuven – sef trefn yn Flanders ac mae’n cael ei sillafu hefyd fel Louvain yn Ffrangeg.