Mae Université De Mons yn brifysgol Ffrangeg ei hiaith sydd wedi ei lleoli yn Ninas Mons (Bergen yn Iseldireg) yn nhalaith Hainaut, Gwlad Belg, ger y ffin rhwng Ffrainc a Gwlad Belg ac yng nghanol Gwlad Belg ac Ewrop. Mae Prifysgol Mons, sy’n cael ei thalfyrru i "UMONS", tua 50 cilometr o Frwsel, prifddinas Ewrop. Mae’r brifysgol wedi'i chysylltu'n dda gan drenau, bysus a'r Eurostar sy’n ei gwneud yn sylfaen wych ar gyfer ymweld â rhannau eraill o Ewrop megis Paris ac Amsterdam. Mae gan Mons hinsawdd gefnforol nodweddiadol o wlad Belg gyda gwahaniaethau tymheredd cymharol gul rhwng y tymhorau o ystyried ei lledred 50 ° mewndirol, o ganlyniad i ddylanwad llif y Gwlff. Mae lleoedd llety mewn neuaddau Prifysgol yn gyfyngedig, ond gallwch fod yn dawel eich meddwl gan fod digon o lety ar gael oddi ar y campws.

Ni fydd modd treulio blwyddyn dramor yn y brifysgol hon os oes gennych asesiadau, megis arholiadau atodol neu wedi'u
gohirio, yn ystod 
cyfnod asesu mis Awst ym Mhrifysgol Abertawe.

generic partner page image

Sori Myfyriwr

student story