Lleolir Lodz (a ynganir 'Woodge') yng Ngwlad Pwyl, awr a hanner o Warsaw. Mae'r gaeafau yn Lodz yn oer gyda thymereddau o dan y rhewbwynt. Mae'r hafau'n fwynach. Prifysgol Lodz yw un o'r rhai mwyaf yng Ngwlad Pwyl ac mae'n aml yn croesawu siaradwyr gwadd o wleidyddion adnabyddus i bobl fusnes a chynrychiolwyr diwylliannol. Bydd y brifysgol hefyd yn cynnig Cwrs Pwyleg dewisol i'ch helpu i ymgyfarwyddo â'r iaith pan fyddwch yn byw yno. Mae llety ar gael i fyfyrwyr cyfnewid ar y campws ond ni ellir gwarantu y bydd lleoedd ar gael.
![Myfrywyr sy'n astudio gyda'i gilydd](/cy/mynd-yn-fyd-eang/cyfleoedd-byd-eang/prifysgolion-partner/gwlad-pwyl/prifysgol-lodz/generic-partner-page-image-%281%29.jpg)