Lleolir tref Salamanca yng ngorllewin canolbarth Sbaen ac mae'n gartref i Universidad de Salamanca. Mae'n rhan o ranbarth awtonomaidd Castile a Leon a chaiff ei hystyried yn un o'r dinasoedd mwyaf diogel yn Sbaen. Cynhelir digonedd o wyliau yn Salamanca ac mae'r dref yn cynnig gweithgareddau diwylliannol a chwaraeon i fyfyrwyr – os ydych yn hoff o bêl-droed, gallwch fynd i wylio clwb pêl-droed Salamanca yn chwarae mewn gêm leol!
Nid yw Swyddfa Cysylltiadau Rhyngwladol Salamanca yn trefnu llety i fyfyrwyr, ond gall myfyrwyr naill ai wneud cais am ystafell yn un o neuaddau preswyl y brifysgol neu ddod o hyd i lety preifat. Dylid nodi mai Sbaeneg yw'r iaith addysgu felly mae angen i chi naill ai fod yn astudio Sbaeneg fel rhan o'ch gradd neu'n meddu ar lefel iaith ofynnol (B1) er mwyn astudio fel myfyriwr cyfnewid yn Salamanca.