Lleolir Valladolid, prifddinas talaith Valladolid, yng nghanol rhanbarth Castile-Leon yn Sbaen. Mae Valladolid yn ddinas ddiwydiannol gymharol fawr 200km i'r gogledd-orllewin o Fadrid. Mae ganddi hinsawdd Môr y Canoldir felly gallwch ddisgwyl hafau poeth a gaeafau oer a gwyntog oherwydd ei huchder a'i lleoliad mewndirol. Mae gan Universidad de Valladolid bedwar campws yn ninasoedd Valladolid, Palencia, Segovia a Soria ac, fel myfyriwr cyfnewid sy'n astudio Cyfieithu, byddwch wedi eich lleoli ar gampws Valladolid. Gall y Swyddfa Cysylltiadau Rhyngwladol roi cyngor i fyfyrwyr ar lety, ac argymhellir bod myfyrwyr yn trefnu eu llety ar-lein cyn y dyddiad cau os ydynt am gael ystafell ar y campws. Fel arall, mae fflatiau ar gael i'w rhannu a lleoedd i aros gyda theuluoedd lleol.
Ni fydd modd treulio blwyddyn dramor yn y brifysgol hon os oes gennych asesiadau, megis arholiadau atodol neu wedi'u
gohirio, yn ystod cyfnod asesu mis Awst ym Mhrifysgol Abertawe.