Lleolir y brifysgol ym Marcelona heb fod ymhell o’r môr ar droed. Gallwch ddisgwyl gaeafau mwyn a hafau poeth. Dyfarnwyd y brifysgol y sefydliad gorau yn Sbaen ac mae hi wedi cyrraedd rhestr y 150 o brifysgolion gorau yn y byd. Mae gan UPF dri champws yn y ddinas ac mae’n adnabyddus am ei hyblygrwydd a’i dynamiaeth, o ystyried y ffaith bod ei hastudiaethau yn gynyddol addasadwy. Mae nifer y lleoedd yn neuaddau’r myfyrwyr yn gyfyngedig felly byddwch yn barod i chwilio oddi ar y campws am lety a dechreuwch y broses cyn gynted â phosib.
![Myfrywyr sy'n astudio gyda'i gilydd](/cy/mynd-yn-fyd-eang/cyfleoedd-byd-eang/prifysgolion-partner/sbaen/universitat-pompeu-fabra/generic-partner-page-image-%287%29.jpg)