Prifysgol ymchwil gyhoeddus gydaddysgol yw Prifysgol A&M Tecsas, a leolir yng nghanol triongl Houston-Dallas-Austin, yn College Station, Tecsas. Mae’n brifysgol daleithiol flaenllaw a dyma’r unig brifysgol yn Nhecsas sydd wedi’i dynodi fel un sy’n derbyn pob un o’r grantiau tir, môr a gofod. O fewn y gyfadran mae 19 aelod o Academi Ryngwladol Peirianneg ynghyd ag 11 aelod o'r Academi Wyddoniaeth Cenedlaethol. Mae A&M Tecsas wedi cymryd rhan mewn dros 500 o brosiectau ymchwil mewn mwy na 80 o wledydd.
Mae’r prif gampws, sy’n gartref i Lyfrgell Arlywyddol George Bush, yn un o’r campysau mwyaf yn yr Unol Daleithiau, gan gynnwys 5,200 o erwau. Mae gan Brifysgol Texas A&M dros 1,000 o sefydliadau myfyrwyr y gallwch gymryd rhan ynddynt a bydd oddeutu 88% o fyfyrwyr yn cymryd rhan mewn sefydliad ar y campws yn ystod eu harhosiad. Mae'r hafau yn dwym a llethol yn College Station, ac mae'r gaeafau'n fyr, oer a gwlyb; mae hi'n rhannol gymylog drwy gydol y flwyddyn felly dewch â dillad sy'n addas ar gyfer pob tywydd.
Ni fydd modd treulio blwyddyn dramor yn y brifysgol hon os oes gennych asesiadau, megis arholiadau atodol neu wedi'u
gohirio, yn ystod cyfnod asesu mis Awst ym Mhrifysgol Abertawe.