Prifysgol gyhoeddus gydaddysgol yw Prifysgol Kentucky, a leolir yn Lexington, Kentucky, sef y 4edd ddinas orau ar gyfer “Busnesau a Gyrfaoedd” yn ôl Cylchgrawn Forbes a dyma un o’r ddwy brifysgol yn y dalaith sy’n derbyn grantiau tir. Mae’r sefydliad yn cynnig saith prif gyfleuster ciniawa, 23 o neuaddau preswyl a llawer o gyfleusterau hamdden a rennir rhwng y tri champws gwahanol: gogledd, de a chanolog. Hefyd, mae’n gartref i fwy na 250 o sefydliadau a arweinir gan fyfyrwyr, gan gynnwys rhaglen opera uchel ei pharch. Rhaglen athletaidd Prifysgol Kentucky, Kentucky Wildcats, yw’r corff chwaraeon mwyaf poblogaidd yn Lexington, felly bydd digon o chwaraeon i chi gymryd rhan ynddynt neu’u gwylio. Mae Lexington, a adwaenir fel “Prifddinas Ceffylau’r Byd” yng nghanol rhanbarth Tir Glas y dalaith ac mae’r ardal wedi chwarae rôl amlwg o ran magu ceffylau sy’n bencampwyr; fe’i cysylltir â harddwch naturiol tirwedd yr ardal. Ymddolennir llawer o afonydd bach i afon Kentucky. Mae Lexington yn gartref i lawer o sefydliadau celfyddydau ffyniannus, gan gynnwys cerddorfa broffesiynol, dau gwmni bale, sawl amgueddfa a sefydliad corawl. Dewch i fwynhau Ffair Gelfyddydau Mayfest, gwyliau cerddoriaeth Tir Glas a Broadway, Marchnad yr Artistiaid, Midsummer Night’s Run, Cerddorfa Ffilharmonig Lexington, Cynhadledd Ysgrifenwragedd Kentucky a Dawns Fasgiau Beaux Arts. Ceir hafau poeth a llaith yn Lexington, yn ogystal â gaeafau cymedrol oer gyda chyfnodau mwyn achlysurol. Fe’i cydnabu gan Sefydliad Asthma ac Alergeddau America fel ardal risg uchel o ran alergeddau.
Ni fydd modd treulio blwyddyn dramor yn y brifysgol hon os oes gennych asesiadau, megis arholiadau atodol neu wedi'u
gohirio, yn ystod cyfnod asesu mis Awst ym Mhrifysgol Abertawe.