Mae gan y Brifysgol gampws preswyl yn Athens, Ohio, hefyd, sy’n edrych dros afon Hocking. Fel llawer o brifysgolion yn Ohio, mae Prifysgol Ohio’n cynnal ei hadran heddlu ei hun, fel asiantaeth gorfodi’r gyfraith annibynnol sy’n cynnwys swyddogion, anfonwyr, gweinyddwyr, adrannau patrolio ac ymchwilio, timau cŵn a thîm SWAT. Yn gyffredinol, mae hinsawdd Ohio’n llaith, gyda hafau poeth ledled y dalaith a gaeafau oer, a cheir glawiad cymedrol drwy gydol y flwyddyn. Ceir sawl llwybr heicio pellter hir yn Ohio; Buckeye Trail yw’r un amlycaf, sy’n oddeutu 2,324 km o hyd. Mae’r brifysgol yn cystadlu yn y Gymdeithas Athletau Colegol Cenedlaethol (NCAA) ar lefel Cynghrair I. Mae timau athletau Ohio, a adwaenir fel y Bobcats, yn gwisgo’r lliwiau gwyrdd helwyr a gwyn swyddogol pan fyddant yn cystadlu. Rufus the Bobcat yw masgot yr ysgol a bydd cerflun maint llawn Rufus yn eich croesawu wrth fynedfa Stadiwm Peden. Gyda dros 500 o sefydliadau myfyrwyr a 108 o wledydd yn cael eu cynrychioli yn y brifysgol fe fydd digon o gyfleoedd i chi gymryd rhan mewn gweithgareddau a chreu cysylltiadau newydd.
Ni fydd modd treulio blwyddyn dramor yn y brifysgol hon os oes gennych asesiadau, megis arholiadau atodol neu wedi'u
gohirio, yn ystod cyfnod asesu mis Awst ym Mhrifysgol Abertawe.