Mae system Prifysgol Talaith Califfornia (Cal State) yn cynnwys 23 o gampysau ledled Califfornia, gyda Thalaith Humboldt yn y gogledd a Phrifysgol Talaith San Diego yn y de. Golyga hyn y gallwch ddewis i astudio mewn lle sydd â naws dinas fawr neu naws tref fach a phopeth rhwng y ddau begwn. Gan ystyried bod y dalaith yn cynnwys rhai o'r Parciau Cenedlaethol mawr megis Yosemite, Death Valley a Joshua Tree, mae llawer o bethau i chi eu gweld a'u gwneud pan na fyddwch yn astudio. Mae llety ar y campws yn gyfyngedig mewn sefydliadau o fewn Cal State felly mae'n werth chweil i chi ymchwilio'ch dewisiadau'n ofalus a bod yn barod i chwilio am lety oddi ar y campws.
Mae CSU yn gartref i fyfyrwyr o draean uchaf graddedigion ysgol uwchradd y dalaith a hi yw prif sefydliad addysgu israddedig California. Mae CSU yn ymdrechu i greu amgylchedd croesawgar i bob aelod o gymunedau'r campws. Mae'r ymrwymiad hwn yn amlwg o weld yr amrywiaeth ethnig, economaidd ac academaidd a geir o fewn ei myfyrwyr.
Ni fydd modd treulio blwyddyn dramor yn y brifysgol hon os oes gennych asesiadau, megis arholiadau atodol neu wedi'u
gohirio, yn ystod cyfnod asesu mis Awst ym Mhrifysgol Abertawe.