Sefydliad dynodedig sy’n derbyn grantiau tir, môr a gofod yw Prifysgol Talaith Louisiana, sy’n nodedig am ei chyfleusterau ymchwil sylweddol. Mae gan Brifysgol Talaith Louisiana dros 350 o sefydliadau myfyrwyr gweithredol, gan gynnwys llywodraeth myfyrwyr a chyfanswm o 38 o frawdoliaethau a chwaeroliaethau. Mae The Daily Reveille, sef papur newydd y myfyrwyr ym Mhrifysgol Talaith Louisiana, yn cyflogi mwy nag 80 o fyfyrwyr bob semester mewn swyddi sy’n amrywio o ysgrifennu a golygu i ddylunio a darlunio.
Mae timau sy’n cynnwys 21 o fathau o chwaraeon yn cynrychioli Prifysgol Talaith Louisiana, ac mae’n aelod o’r NCAA (Cymdeithas Athletau Colegol Cenedlaethol) a’r Gynhadledd De-ddwyreiniol. Mae tîm athletau Prifysgol Talaith Louisiana’n cael ei gynrychioli gan deigr Bengâl, o’r enw Mike the Tiger, sy’n byw mewn cynefin newydd pwrpasol gwerth $3 miliwn, a grëwyd yn 2005. Cynhelir digwyddiadau chwaraeon yn Stadiwm Tiger, a lysenwir yn Death Valley, sy’n enwog am sŵn aruthrol y mae’r cefnogwyr yn ei greu. Mae gan Death Valley le i 102,321 o gefnogwyr ac ystyrir yr awyrgylch fel un o’r profiadau mwyaf gwefreiddiol yn y wlad ym maes pêl-droed colegau. Mae amser a dreulir yn astudio ym Mhrifysgol Talaith Louisiana’n siŵr o fod yn brofiad cyffrous a newydd.
Ni fydd modd treulio blwyddyn dramor yn y brifysgol hon os oes gennych asesiadau, megis arholiadau atodol neu wedi'u
gohirio, yn ystod cyfnod asesu mis Awst ym Mhrifysgol Abertawe.