Prifysgol ymchwil gyhoeddus yw Prifysgol Utah, yn Salt Lake City, Utah, yr Unol Daleithiau. Mae'r brifysgol ymysg 50 o sefydliadau gorau'r UD yn ôl cyfanswm gwariant ymchwil; dyma'r 12fedfed brifysgol fwyaf amrywiol yn ideolegol yn y wlad ac fe'i dyfarnwyd yn 3ydd gan Asiantaeth yr UD ar gyfer Amddiffyn yr Amgylchedd o ran defnydd blynyddol prifysgolion o bŵer gwyrdd, gyda 31% o'i phŵer yn dod o ffynonellau gwynt a solar. Salt Lake City yw prifddinas a bwrdeistref fwyaf poblog Talaith Utah; mae'n cynnwys ardal o 110.4 milltir sgwâr ac mae ganddi uchder o 4,327 o droedfeddi ar gyfartaledd. Disgrifir hinsawdd Salt Lake City fel un letgras, gyda hafau poeth a gaeafau oer eirïaidd. Lleolir y brifysgol mewn ardal fetropolitan fawr ond mae llawer o fyfyrwyr yn byw yn y cymdogaethau gerllaw’r brifysgol. Mae gan Salt Lake City ddiwylliant gwyliau ffyniannus a bywiog. Cynhelir gwyliau amrywiol drwy gydol y flwyddyn, gan ddathlu amrywiaeth y cymunedau sy'n byw yng Nghwm Salt Lake. Ceir pob math o ŵyl, gan gynnwys rhai ar gyfer diwylliant, bwyd, crefydd ac ysbrydolrwydd, dawns, cerddoriaeth, y gair llafar a ffilmiau, ac mae llawer ohonynt wedi cael eu cynnal ers degawdau.
Ni fydd modd treulio blwyddyn dramor yn y brifysgol hon os oes gennych asesiadau, megis arholiadau atodol neu wedi'u
gohirio, yn ystod cyfnod asesu mis Awst ym Mhrifysgol Abertawe.