Mae astudio ym Mhrifysgol Wyoming yn cynnig cyfle unigryw i fyfyrwyr Abertawe ymgolli mewn cymuned groesawgar ym mynyddoedd Gorllewin America. Mae'r rhanbarth yn adnabyddus am ei hawyrgylch cyfeillgar ac yma byddwch chi'n dod o hyd i athrawon cefnogol sy'n ymroddedig i'ch helpu chi i lwyddo ac mae yma hefyd fywyd myfyrwyr bywiog sy'n annog twf personol gan gynnwys rhaglen athletau ffyniannus lle gallwch chi gefnogi'r cowbois a'r cowmonesau mewn gemau pêl-droed Americanaidd, pêl-foli, pêl-fasged a phêl-droed a mwy.

Lleolir Laramie, Wyoming, yng nghanol y Mynyddoedd Creigiog 2,200 o fetrau uwch ben y môr. Mae ei huchder yn golygu bod ei thrigolion yn mwynhau aer glân, ffres a 233 o ddiwrnodau heulog bob blwyddyn ar gyfartaledd! Hefyd, oherwydd bod y ddinas rhwng dwy gadwyn o fynyddoedd, mae tirweddau trawiadol ar eich stepen drws a gallwch chi fwynhau llawer o weithgareddau awyr agored, gan gynnwys heicio a sgïo ac archwilio parciau cenedlaethol ysblennydd.

Ni fydd modd treulio blwyddyn dramor yn y brifysgol hon os oes gennych asesiadau, megis arholiadau atodol neu wedi'u gohirio, yn ystod cyfnod asesu mis Awst ym Mhrifysgol Abertawe.

Stori Myfyrwyr

Myfyrwraig yn dal baner Prifysgol Abertawe yn yr awyr agored yn wyoming