Lleolir y brifysgol ar lannau afon Rhine, awr i'r gorllewin o Frankfurt. Mae'r gaeafau braidd yn oer gydag eira'n disgyn yn gymharol reolaidd (er na cheir eira mawr) ac mae'r hafau'n gynnes gyda stormydd mellt a tharanau yn bosibl. Y brifysgol yw un o'r ychydig brifysgolion â champws yn yr Almaen ac mae yno deimlad o dref fach, braf. Gall myfyrwyr fyw mewn neuaddau preswyl ond ni ellir gwarantu lle yn un o'r neuaddau hyn ac efallai y bydd angen i fyfyrwyr chwilio am lety preifat.
![Myfrywyr sy'n astudio gyda'i gilydd](/cy/mynd-yn-fyd-eang/cyfleoedd-byd-eang/prifysgolion-partner/yr-almaen/johannes-gutenberg-universitat-mainz/generic-partner-page-image-%2816%29.jpg)