Mae Cologne ar yr afon Rhein ac mae’n cymryd 45 munud i yrru yno mewn car o Bonn a Düsseldorf.Mae hinsawdd Cologne yn debyg i hinsawdd de-ddwyrain Lloegr. Mae Prifysgol Cologne unwaith eto yn ymddangos yn y 150 o brifysgolion gorau’r byd yn nhablau THE sy’n golygu y byddwch yn derbyn profiad addysgol o safon uchel. Mae modd i fyfyrwyr wneud cais i fyw mewn neuadd breswyl ar y campws, ond prin yw’r lleoedd felly byddwch yn barod i chwilio am lety oddi ar y campws a dechrau’r broses gwneud cais cyn gynted ag y bo modd.
![Myfrywyr sy'n astudio gyda'i gilydd](/cy/mynd-yn-fyd-eang/cyfleoedd-byd-eang/prifysgolion-partner/yr-almaen/universitat-zu-koln/generic-partner-page-image-%2820%29.jpg)