Mae Münster yng ngogledd-orllewin yr Almaen ac awr mewn car o’r ffin â’r Iseldiroedd. Mae’r gaeafau’n gymharol gynnes ac annhebygol iawn y bydd hi’n bwrw eira. Mae Prifysgol Münster yn y 200 o brifysgolion gorau’r byd yn ôl tablau THE, sy’n dangos y safon uchel yno. Mae modd i fyfyrwyr wneud cais i fyw mewn neuadd breswyl ar y campws, ond prin yw’r lleoedd felly byddwch yn barod i chwilio am lety oddi ar y campws a dechrau’r broses gwneud cais cyn gynted ag y bo modd.
![Myfrywyr sy'n astudio gyda'i gilydd](/cy/mynd-yn-fyd-eang/cyfleoedd-byd-eang/prifysgolion-partner/yr-almaen/westfalische-wilhelms-universitat-munster/generic-partner-page-image-%2820%29.jpg)