Mae'r Eidal, yn Ne Ewrop, yn gartref i'r nifer mwyaf o Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO, felly bydd digon o bethau i chi eu gwneud yn ystod eich lleoliad heblaw astudio neu weithio! Mae'r rhan fwyaf o'r Eidal yn cael hafau poeth, sych - mis Gorffennaf yw mis poethaf y flwyddyn. Mae'r hydref yn lawog ar y cyfan ac nid oes syndod bod gaeafau'n oerach yn y gogledd ac yn fwynach yn y de.
Caiff Prifysgol Abertawe ei phartneru â'r canlynol:
- Alma Mater Studiorum Università di Bologna
- Università degli studi di Bergamo
- Università degli studi di Parma
- Università degli studi di Siena