A yw eich plentyn yn bwriadu mynd dramor?
Rydym yn gwybod, i lawer o rieni, y gall y syniad o'ch plentyn yn symud dramor am semester neu flwyddyn achosi pryder a gall deimlo'n anodd i chi lywio drwy'r broses ar adegau. Hoffem eich sicrhau bod y Tîm Ewch yn Fyd-eang ar gael i baratoi'r holl fyfyrwyr ar gyfer eu cyfnod dramor a byddwn yn parhau i'w cefnogi pan fyddant yno. Fodd bynnag, gofynnwn i fyfyrwyr fod yn rhagweithiol ac yn ymrwymedig hefyd, drwy fynd i'r holl sesiynau paratoi a gynhelir gennym cyn iddynt adael a thrwy gyfathrebu â ni.
Darperir gwybodaeth i'r holl fyfyrwyr am sut i wneud cais am flwyddyn neu semester dramor yn gynnar iawn yn eu gyrfa yn y Brifysgol. Yna, byddant yn cael eu gwahodd i gyfres o sesiynau paratoi:
- Sgyrsiau Gwybodaeth Adrannol (Hydref)
- Sgyrsiau Dewisiadau Adrannol (Tachwedd)
gwybodaeth am y prifysgolion partner sydd ar gael, y costau perthnasol, y cyllid sydd ar gael a'r benthyciadau myfyrwyr - Cyfarfod Dewis Modiwlau (Ionawr)
gyda chydlynydd academaidd y myfyrwyr, er mwyn trafod y modiwlau sydd ar gael yn y prifysgolion partner a ddyrannwyd iddynt - Sesiwn Cynorthwyo wrth Wneud a Chyflwyno Ceisiadau (o fis Chwefror ymlaen)
gyda'r Tîm Ewch yn Fyd-eang, er mwyn esbonio'r gwaith papur neu'r ffurflenni ar-lein sydd i'w cwblhau, manylion y dystiolaeth ariannol y bydd yn rhaid i'r myfyrwyr eu darparu os byddant yn astudio mewn gwlad lle bydd angen fisa, dyddiadau cau a chostau - Digwyddiad Beth sy'n Digwydd Nesaf (Chwefror)
gyda'r Tîm Ewch yn Fyd-eang, lle byddwn yn atgoffa'r holl fyfyrwyr o'r camau i gwblhau gweddill y semester. Byddwn hefyd yn eu hatgoffa o'r ffaith bod yn rhaid iddynt gyflwyno eu ceisiadau am fenthyciadau myfyrwyr a'u ceisiadau i brifysgolion partner ac yn rhoi cyngor cyffredinol ar baratoi - Digwyddiad Ffïoedd, Cyllid ac Ariannu (Mawrth)
gyda'r Tîm Ewch yn Fyd-eang, lle byddwn yn esbonio'r costau perthnasol i'r myfyrwyr eto, yn eu hatgoffa o'r cyllid y byddant yn ei dderbyn ac yn trafod y ffordd orau o gyllido ar gyfer eu cyfnod dramor. Mae Tîm Cyngor ar Arian Prifysgol Abertawe hefyd yn cynorthwyo'r digwyddiad hwn. - Sesiwn cyfeirio ynghylch fisâu (Ebrill)
i'r myfyrwyr hynny y mae angen fisa arnynt i fynd i'r wlad yr hoffent ymweld â hi, gwybodaeth gyffredinol am y broses, yr hyn y dylent ei ddisgwyl a phryd y bydd angen iddynt ystyried trefnu cyfweliadau fisâu etc - Cyfarfodydd Paratoi Adrannol (Ebrill)
gyda'r cydlynydd academaidd, lle esbonnir y Llawlyfr Academaidd Blwyddyn Dramor ac ailadroddir gofynion y modiwlau a llwythi gwaith cyrsiau; caiff gwaith papur Ewch yn Fyd-eang ei gwblhau a bydd cyhoeddiadau atgoffa am iechyd a diogelwch - Digwyddiad Cyn Gadael (Mai)
deuir â'r holl fyfyrwyr ynghyd i gwrdd â myfyrwyr eraill sy'n mynd i'r un wlad â hwy, byddwn yn trafod sefyllfaoedd teithio, yr hyn y dylid ei wneud mewn argyfwng a bydd cyhoeddiadau atgoffa am yswiriant, cadw'n ddiogel etc.