Mae'r MSc mewn Rheoli Adeiladu Diwydiannol yn rhaglen arloesol a fydd yn datblygu arweinwyr diwydiant y dyfodol drwy gyfuno arbenigedd technegol â sgiliau rheoli strategol. Fe'i cyflwynir ar y cyd gan yr Adran Peirianneg Sifil a'r Ysgol Reolaeth, ac mae'n cynnig cyfuniad unigryw o arbenigedd adeiladu ar safle ac arweinyddiaeth prosiect mewn swyddfa.
Mae'r rhaglen hon yn mynd y tu hwnt i wybodaeth ddamcaniaethol mewn Rheoli Adeiladu, gan bwysleisio sgiliau ymarferol, senarios yn y byd go iawn a phrofiad ymarferol drwy ymgysylltu ag arweinwyr diwydiant.
Caiff ei hardystio gan y Temporary Works Forum (TWF), sefydliad masnach blaenllaw yn y sector adeiladu, ac mae'r rhaglen yn cynnwys darlithoedd a arweinir gan ddiwydiant, astudiaethau achos o'r byd go iawn a phrosiectau ymarferol. Caiff rhan helaeth o'r cwricwlwm ei chyflwyno gan uwch weithwyr proffesiynol o gwmnïau adeiladu blaenllaw'r DU, gan gynnig dealltwriaeth unigryw o arferion y diwydiant sy'n torri tir newydd.
Fel myfyriwr ar y rhaglen hon, byddwch yn cael sylfaen gref mewn dulliau adeiladu, cydlynu gwaith dros dro, a phob agwedd ar reoli prosiectau, gan sicrhau eich bod yn barod ar gyfer byd diwydiant unwaith y byddwch wedi graddio.
Drwy ymgorffori priodoleddau graddedigion, partneriaethau â diwydiant a dysgu rhyngddisgyblaethol, mae'r MSc hon mewn Rheoli Adeiladu'n cynnig profiad addysgol cynhwysfawr a blaengar sy'n gallu rhoi i chi wybodaeth academaidd a chymwyseddau proffesiynol y mae eu hangen i ragori yn y diwydiant adeiladu.
Pam Industrial Construction Management yn Abertawe?
Bydd y rhaglen yn defnyddio arbenigedd staff academaidd yr Adran Peirianneg Sifil yn ogystal â'r Ysgol Reolaeth, a bydd gwaith ymchwil mewn arbenigeddau rheoli'n cyfoethogi'r rhaglen â dealltwriaeth sy'n pontio'r bwlch rhwng ymchwil academaidd ac arferion adeiladu yn y byd go iawn.
Mae'r ymagwedd strwythuredig sy'n cyd-fynd â byd diwydiant yn sicrhau eich bod, fel myfyriwr graddedig, wedi meithrin yr wybodaeth academaidd a’r cymwyseddau ymarferol y mae eu hangen ar gyfer rolau arweinyddiaeth yn y sector adeiladu.
Mae'r Adran Peirianneg Sifil yn Abertawe wedi sefydlu enw da yn rhyngwladol, ac o ganlyniad wedi cyrraedd y safleoedd canlynol:
Ymysg y 25 rhaglen orau o’i bath yn y DU am Ansawdd Ymchwil (Complete University Guide 2025)
Ymysg y 25 rhaglen orau o’i bath yn y DU am Ymchwil (Times Good University Guide 2025)
Ymysg y 201-240 o raglenni gorau yn y byd ar gyfer Peirianneg - Sifil a Strwythurol (Tablau Prifysgolion y Byd QS 2024), ac
mae 100% o'n gwaith ymchwil o safon fyd-eang ac yn rhagorol yn rhyngwladol (REF 2021)
Caiff eich astudiaethau eu cefnogi gan gymuned ryngwladol o dros 500 o fyfyrwyr ôl-raddedig a 120 o aelodau staff ymchwil yn yr Adran Beirianneg. Ceir cymorth pellach drwy fynediad 24 awr i'n llyfrgell ar y safle, labordai a chyfleusterau cynhwysfawr, rhaglen o ddarlithoedd gwadd drwy gydol y flwyddyn, ac ystafelloedd gwaith penodedig i fyfyrwyr ôl-raddedig.
Eich Profiad Industrial Construction Management
Mae'r rhaglen hon wedi'i llunio ar sail yr egwyddor bod angen i weithwyr proffesiynol adeiladu effeithiol feddu ar allu rheoli cryf a dealltwriaeth ddofn o weithrediadau peirianneg a safle. Yn wahanol i raglenni traddodiadol sy'n canolbwyntio'n bennaf ar gynllunio prosiectau a rheoli busnes, mae'r radd MSc hon yn cynnwys arweinyddiaeth strategol ac arbenigedd technegol i greu graddedigion cyflawn, wedi'u paratoi’n dda am gymhlethdodau prosiectau adeiladu modern.
Un o bileri allweddol yr athroniaeth hon yw cydweithio â byd diwydiant. Gyda mewnbwn uniongyrchol gan Temporary Works Forum (TWF) a gweithwyr proffesiynol blaenllaw yn y maes, mae'r rhaglen yn sicrhau y byddwch yn ennill dealltwriaeth dda o heriau adeiladu cyfoes, arferion gorau ac arloesi sy'n dod i'r amlwg. Mae cyfranogi yn y byd go iawn yn gwella cyflogadwyedd ac yn pontio'r bwlch rhwng dysgu academaidd ac anghenion y diwydiant.
Mae'r rhaglen hefyd yn cynnwys safbwynt byd-eang, gan gydnabod bod adeiladu'n ddiwydiant rhyngwladol gyda rheoliadau, cyd-destunau diwylliannol a heriau cynaliadwyedd amrywiol. Drwy gyfuno manyldeb academaidd ag astudiaethau achos ymarferol, dysgu ar safle a modiwlau a arweinir gan y diwydiant, mae'r MSc mewn Rheoli Adeiladu Diwydiannol yn datblygu gweithwyr proffesiynol sy'n gallu addasu, sy'n meddwl yn flaengar ac yn barod i arwain mewn sector sy'n datblygu'n gyflym.
Agwedd allweddol o'r integreiddio hwn yw'r cydweithio cryf â’r diwydiant, yn enwedig gyda’r Temporary Works Forum (TWF) a llawer o gwmnïau adeiladu blaenllaw yn y DU, sy'n cynnig addysgu a arweinir gan y diwydiant ar gyfer tri modiwl peirianneg (60 credyd). Mae'r bartneriaeth hon yn sicrhau y byddwch yn derbyn hyfforddiant sy'n cyd-fynd yn uniongyrchol ag anghenion y diwydiant, gan ennill profiad yn y byd go iawn a chael dealltwriaeth broffesiynol.
Cyfleoedd Cyflogaeth Industrial Construction Management
Fel myfyriwr graddedig o'r rhaglen hon, byddwch yn datblygu sgiliau entrepreneuraidd allweddol, gan gynnwys ymwybyddiaeth fasnachol ac o fyd busnes, datrys problemau, arweinyddiaeth, rheoli risg, rhwydweithio ac addasu digidol.
Bydd y sgiliau hyn yn cael eu meithrin drwy fodiwlau a arweinir gan y diwydiant, darlithoedd gwadd, ymweliadau â safleoedd a phrosiectau cydweithredol, gan eich paratoi ar gyfer rolau arweinyddiaeth neu fentrau entrepreneuraidd yn y sector adeiladu.
Bydd galw mawr am raddedigion ar gyfer rolau blaenllaw mewn amrywiaeth o arbenigeddau cysylltiedig, megis:
Rheoli Adeiladu a Rheoli Prosiectau
Rheolwr Prosiectau Adeiladu
Rheolwr Safle
Rheolwr Contractau
Peirianneg ac Ymgynghoriaeth Dechnegol
Peiriannydd Adeiladu
Cydlynydd Gwaith Dros Dro
Arbenigwr BIM (Modelu Gwybodaeth am Adeiladau)
Rolau Masnachol ac Ariannol
Syrfëwr Meintiau
Peiriannydd Costau
Rheolwr Caffael
Iechyd, Diogelwch a Chynaliadwyedd
Rheolwr Iechyd a Diogelwch
Ymgynghorydd Cynaliadwyedd
Arbenigwr Rheoli Risg
Os ydych newydd raddio neu'n weithiwr proffesiynol yn y diwydiant, mae'r MSc hon yn pontio'r bwlch rhwng arbenigedd technegol a rhagoriaeth reoli, gan ei gwneud yn llwybr perffaith i gael gyrfa lwyddiannus yn y diwydiant.
Modiwlau
Dyma strwythur y rhaglen:
Tymor 1 (Medi – Rhagfyr): Dau fodiwl peirianneg (Dulliau Adeiladu a Chydlynu Gwaith Dros Dro, Dulliau Adeiladu mewn Gwaith Adeiladu) ac un modiwl rheoli (Rheoli Prosiect), pob un yn werth 20 credyd.
Tymor 2 (Chwefror – Mai): Dau fodiwl rheoli (Rheoli Prosiectau Uwch, Rheoli Strategol ar gyfer Adeiladu) ac un modiwl peirianneg (Dulliau Adeiladu mewn Gwaith Isadeiledd) pob un yn werth 20 credyd.
Tymor 3 (Mehefin – Medi): Bydd myfyrwyr yn cwblhau prosiect grŵp a ddiffinnir gan y diwydiant, sy'n werth 60 credyd.
Dylai ymgeiswyr feddu ar gymhwyster BSc neu BEng 2:2 neu'n uwch (neu gyfwerth) mewn Peirianneg Sifil neu bwnc cysylltiedig agos. Nid oes angen gwybodaeth flaenorol o reoli ar gyfer y cwrs hwn.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr o bedwar ban byd a gofynnwn am dystiolaeth o astudio blaenorol cyfwerth â'r gofynion mynediad a nodir uchod. Mae'r Swyddfa Derbyn Myfyrwyr Ôl-raddedig yn hapus i’ch cynghori ynghylch addasrwydd eich cymwysterau ar gyfer mynediad i’r cwrs yr hoffech ei astudio. E-bostiwch postgraduate.admissions@abertawe.ac.ukam ragor o wybodaeth.
Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, bydd angen i chi ennill cymhwyster Iaith Saesneg cymeradwy ar lefel dderbyniol er mwyn sicrhau eich bod yn manteisio'n llawn ar y cyfle i astudio yn Abertawe. Rydym yn ystyried ystod eang o gymwysterau, gan gynnwys Prawf Saesneg Prifysgol Abertawe, prawf IELTS y British Council (gyda sgôr o 6.5 neu’n uwch ac o leiaf 5.5 ym mhob elfen). Mae rhestr lawn o brofion Iaith Saesneg derbyniol ar gael yn: https://www.swansea.ac.uk/cy/astudio/derbyn-myfyrwyr/gofynion-iaith-saesneg
Bwriad y rhaglen yw rhoi cyfuniad cynhwysfawr i chi o wybodaeth dechnegol, arbenigedd rheoli a phrofiad o’r diwydiant.
Mae ein prif ddulliau dysgu ac addysgu'n cynnwys:
Darlithoedd mawr:Cysyniadau damcaniaethol craidd a gyflwynir i'r holl fyfyrwyr
Seminarau a thiwtorialau mewn grwpiau bach:Trafodaethau rhyngweithiol a datrys problemau
Labordai cyfrifiaduron: Hyfforddiant ymarferol gyda meddalwedd safonol y diwydiant
Gweithdai ymarferol ac ymweliadau safle:Profiad o'r byd adeiladu go iawn
Sesiynau a arweinir gan ddiwydiant:Cyflwynir gan weithwyr proffesiynol TWF a darlithwyr gwadd
Gwaith grŵp/cyflwyniadau: Annog gweithio mewn tîm a sgiliau cyfathrebu
Caiff rhan sylweddol o'r gwaith addysgu ei chyflwyno drwy ddarlithoedd a seminarau, a gefnogir gan ddarlithoedd gwadd gan weithwyr proffesiynol o’r diwydiant. Bydd elfen ymarferol y cwrs yn cael ei hwyluso drwy weithdai ymarferol ac ymweliadau â safleoedd diwydiant i roi profiad i chi o'r gweithle.
Gall eich dysgu gael ei asesu drwy'r dulliau canlynol: gwaith cwrs, adroddiadau ysgrifenedig a chyflwyniadau llafar i asesu eich ymwybyddiaeth feirniadol o egwyddorion rheoli adeiladu; arholiadau traddodiadol a phrosiectau ymarferol sy'n asesu eich dealltwriaeth o ddamcaniaethau allweddol a’ch gallu i’w cymhwyso; adroddiadau a chyflwyniadau myfyriol i asesu rhesymu dadansoddol a gwneud penderfyniadau; ymarferion efelychu a hyfforddiant meddalwedd technegol i gynorthwyo cymhwyso dysgu yn y byd go iawn; prosiectau grŵp ac ymarferion arweinyddiaeth i ddatblygu gwaith tîm a sgiliau gwneud penderfyniadau, a phrosiectau ymchwil hunangyfeiriedig sy'n hyrwyddo cyfranogiad dyfnach yn y maes pwnc.
Bydd sesiynau datblygu sgiliau ymarferol ac addysgu wyneb yn wyneb yn cael eu cefnogi gan Canvas, a fydd yn brif blatfform e-ddysgu ar gyfer y rhaglen, gan roi mynediad at ddeunyddiau darlithoedd, aseiniadau, fforymau trafod a chyhoeddiadau.
Bydd yr aelodau staff canlynol o'r Adran Peirianneg Sifil a'r Ysgol Reolaeth yn rhan o gydlynu a/neu gyflwyno modiwlau yn y rhaglen:
Bydd Yr Athro Yuntian Feng, sydd â thros 30 mlynedd o brofiad addysgu mewn Peirianneg Sifil, yn cydlynu'r rhaglen, y prosiect grŵp a'r modiwl ‘Dulliau Adeiladu mewn Gwaith Adeiladu’.
ByddYr Athro Chenfeng Li, cyfarwyddwr anweithredol TWF, ac arbenigwr o fri yn y diwydiant adeiladu, yn cydlynu'r modiwl Dulliau Adeiladu a Chydlynu Gwaith Dros Dro'.
Bydd Yr Athro Ed deSouza Nato, Pennaeth yr Adran Peirianneg Sifil, yn cydlynu'r modiwl ‘Dulliau Adeiladu mewn Gwaith Isadeiledd’.
Dr Dafydd Cotterell, Dirprwy Gyfarwyddwr y rhaglen BSc (Anrh) Rheoli Busnes sydd ag arbenigedd ym maes gwydnwch sefydliadol. Mae Dafydd yn darlithio'n bennaf ym maes Rheoli Prosiect a Rheoli Argyfwng/Risg.
Mr David Bolton, Athro Cysylltiol a Chyfarwyddwr y Rhaglen Rheoli Busnes Israddedig, gan ddarlithio mewn Entrepreneuriaeth a Rheoli Prosiectau. Mae gan David dros 20 mlynedd o brofiad yn y diwydiant gan arbenigo mewn Gwerthiannau, Marchnata a Datblygu Busnes, a rhoi cymorth economaidd a busnes i Lywodraeth Cymru.
Yr Athro Andrew Thomas, Deon yr Ysgol Reolaeth ac Athro Rheoli Peirianneg. Mae prif ddiddordebau ymchwil Andrew yn cynnwys peirianneg fforensig, rheoli cynnal a chadw, rheoli peirianneg, strategaeth gweithgynhyrchu a rheoli gweithrediadau. Yn ystod ei yrfa ddiwydiannol, bu ganddo rolau mewn peirianneg awyrofod, gweithgynhyrchu a chynhyrchu.Mae Andrew yn Gymrawd Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol, yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, ac yn Beiriannydd Siartredig.
Yn ogystal, bydd tua 15 arbenigwr o fyd diwydiant yn cyflwyno darlithoedd mewn tri modiwl technegol ac yn goruchwylio’r prosiectau grŵp.
Mae ffioedd dysgu ar gyfer blynyddoedd o astudiaeth ar ôl eich blwyddyn gyntaf yn amodol ar gynnydd o 3%.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ffioedd a sut i dalu ar ein tudalen ffioedd dysgu.
Efallai y byddwch yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.
I gael gwybod am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chyfleoedd cyllido eraill sydd ar gael, ewch i dudalen ysgoloriaethau a bwrsariaethau'r Brifysgol.
Myfyrwyr cyfredol: Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ffioedd a sut i dalu ar ein tudalen ffioedd dysgu.
Mae’n bosib eich bod yn gymwys i gael cymorth ariannol tuag at eich astudiaethau.
Os ydych yn fyfyriwr y DU neu'r UE sy’n dechrau ar radd Meistr ym Mhrifysgol Abertawe, efallai y byddwch yn gymwys i gyflwyno cais am arian gan y Llywodraeth i helpu tuag at gostau eich astudiaethau.
I gael mwy o wybodaeth, ewch i'n tudalen benthyciadau Ôl-raddedig.
I gael gwybod am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chyfleoedd eraill am gymorth ariannol sydd ar gael, ewch i dudalen
ysgoloriaethau a bwrsariaethau'r Brifysgol.
Mae ysgoloriaethau a bwrsariaethau hael ar gael gan Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gyfer myfyrwyr sy'n dymuno astudio trwy gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog.
I ddysgu mwy am y cyfleoedd sydd ar gael i chi, ewch i dudalen Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Academi Hywel Teifi
Bydd mynediad i'ch dyfais ddigidol eich hun/y pecyn TG priodol yn hanfodol yn ystod eich amser yn astudio ym Mhrifysgol Abertawe. Bydd mynediad at wifi yn eich llety hefyd yn hanfodol i'ch galluogi i ymgysylltu'n llawn â'ch rhaglen. Gweler ein tudalennau gwe pwrpasol i gael arweiniad pellach ar ddyfeisiau addas i'w prynu, ac i gael canllaw llawn ar sefydlu'ch dyfais.
Efallai y byddwch chi'n wynebu costau ychwanegol tra byddwch chi yn y brifysgol, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):
Teithio i'r campws ac oddi yno
Costau argraffu, llungopïo, rhwymo, deunydd ysgrifennu ac offer (e.e. ffyn USB)
Yn ogystal â chymorth pwnc penodol gan staff addysgu'r coleg a'ch tiwtor
personol, mae'r
Ganolfan Llwyddiant Academaidd yn darparu cyrsiau, gweithdai a chymorth un-i-un mewn
meysydd fel:
Ysgrifennu academaidd
Mathemateg ac ystadegau
Meddwl critigol
Rheoli amser
Sgiliau digidol
Sgiliau cyflwyno
Cymryd nodiadau
Technegau adolygu, dysgu ar gof ac arholiadau
Sgiliau Saesneg (os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf)
Yn ogystal, os oes gennych Anhawster Dysgu Penodol (ADP/SpLD), anabledd,
cyflwr iechyd meddwl neu gyflwr meddygol, mae gan y Ganolfan Llwyddiant
Academaidd Diwtoriaid Arbenigol i gefnogi'ch dysgu. Bydd y tiwtoriaid yn
gweithio ochr yn ochr â'r Swyddfa Anabledd
a'r Gwasanaeth Lles i gefnogi eich holl anghenion a
gofynion tra byddwch yn astudio ym Mhrifysgol Abertawe.
Argymhellwn eich bod chi'n cyflwyno eich cais am le ar ein cyrsiau mor fuan â phosibl cyn ein dyddiadau cau ar gyfer
cyflwyno cais. Bydd cyrsiau'n cau yn gynharach na'r dyddiadau cau a restrir os caiff yr holl leoedd eu llenwi. Mae
rhagor o wybodaeth ar gael ar ein tudalen we Dyddiadau
cau ar gyfer cyflwyno cais.