Trosolwg o'r Cwrs
Mae'r cwrs MSc Peirianneg Electronig a Thrydanol yn eich galluogi i fireinio sgiliau arbenigol ochr yn ochr â diddordebau ymchwil arloesol yn y Coleg Peirianneg. Bydd eich dysgu yn adlewyrchu gofynion modern y diwydiant electroneg.
Mae'r cwrs, sydd wedi'i achredu gan y Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg (IET), yn rhoi'r gallu i chi gynllunio a gweithredu rhaglen waith gymhleth yn effeithiol, a chymhwyso gwybodaeth arbenigol mewn diwydiant.
Mae'r cwrs hwn yn cynnig cyfle i chi wneud ail flwyddyn ychwanegol ar gyfer Prosiect neu Leoliad Gwaith ym myd diwydiant, gan roi profiad gwaith gwerthfawr i chi a'r cyfle i wella sgiliau technegol a rhyngbersonol.
Mae cymorth ac arweiniad ar gael i helpu i sicrhau eich lleoliad gwaith ond nid yw hyn wedi'i warantu. Ffioedd cwrs yr ail flwyddyn yw £3600 i fyfyrwyr rhyngwladol a £1800 i fyfyrwyr cartref. Gweler rhagor o fanylion am Sut i Gyflwyno Cais am yr MSc gyda Diwydiant isod.