Trosolwg o'r Cwrs
Mae Prifysgol Abertawe yn cyflwyno'r radd MSc gyntaf yn y byd mewn Adfer a Chadwraeth Morol; rhaglen unigryw a chyffrous dros 12 mis sy'n canolbwyntio ar addysgu i chi’r sgiliau i fynd i'r afael ag un o heriau amgylcheddol mwyaf ein hamser - adfer ecosystemau ein cefnforoedd.
Mae'r MSc hon mewn sefyllfa dda i ddiwallu angen byd-eang pwysig. Mae'r Cenhedloedd Unedig wedi nodi'r degawd hwn fel y degawd ar gyfer adfer ecosystemau, gyda llawer o fframweithiau cenedlaethol bellach yn amlygu'r angen dybryd am adfer cynefinoedd cefnforoedd, ac i genhedloedd fodloni’r nodau lleihau carbon. Mae'r rhaglen hefyd yn cydymffurfio'n hwylus â chynlluniau adfer a chadwraeth morol Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, gan sicrhau dyfodol cadarn i raddedigion.
Mae lleoliad glan môr y brifysgol yn creu labordy adfer byw ar eich stepen drws gyda chyfleusterau ymchwil rhagorol a llong ymchwil sy'n arbennig ar gyfer addysgu arfordirol ac ar y môr a dysgu arbrofol i roi i chi sgiliau craidd mewn adfer a chadwraeth morol. Byddwch yn gweithio gyda gwyddonwyr blaenllaw ar brosiectau megis adfer morwellt a morfeydd heli, gan ennill profiad cadwraeth gwerthfawr.
Yn un o gyfleusterau dyfrol mwyaf cynhwysfawr Ewrop, byddwch yn datblygu sgiliau hwsmonaeth ddyfrol ac ymchwil gymhwysol ar draws rhywogaethau sy'n sensitif o ran cadwraeth ac o bwys masnachol. Mae modiwlau'n cynnig cyfleoedd i astudio rhywogaethau dan fygythiad yn eu cynefinoedd naturiol, llunio cynlluniau gweithredu adfer rhywogaethau a chymryd rhan mewn mentrau cadwraeth forol. Byddwch hefyd yn cynnal gwaith ymchwil annibynnol ar bynciau adfer allweddol, gan wella eich arbenigedd mewn adfer a chadwraeth morol.
Gydag ymwybyddiaeth a chyllid byd-eang yn cynyddu ar gyfer adfer ecosystemau, mae'r MSc hon yn galluogi gwyddonwyr morol y dyfodol i feithrin y sgiliau a'r profiad i adfer a diogelu ein cefnforoedd ar gyfer cenedlaethau.