Trosolwg o'r Cwrs
Mae'r MA mewn Ysgrifennu Creadigol yn rhaglen unigryw ysbrydoledig sy'n darparu hyfforddiant integredig ym maes ysgrifennu testun llenyddol a thestun ar gyfer y cyfryngau.
Mae'r cwrs hwn, a addysgir gan awduron profiadol adnabyddus, yn cwmpasu amrywiaeth o genres yn cynnwys ffuglen, y stori fer, barddoniaeth, drama, ysgrifennu sgriptiau ac ysgrifennu creadigol nad yw'n ffuglennol.
Bydd eich astudiaethau yn cydblethu â diwylliant llenyddol unigryw Cymru, sydd ag un o'r traddodiadau barddol hynaf yn Ewrop.
Mae’r MA mewn Ysgrifennu Creadigol (EMA) yn gymhwyster ôl-raddedig gwerth 240 credyd sy’n gyfwerth â 120 ECTS (System Trosglwyddo Credydau Ewropeaidd) ac felly mae’n gymhwyster Meistr sy’n cael ei gydnabod ledled yr Undeb Ewropeaidd. Mae’r EMA yn radd Meistr safonol yn y DU gyda 60 credyd ychwanegol (30 ECTS) ac mae’r gwaith cwrs ychwanegol hwn yn cael ei gwblhau dros un semester mewn sefydliad partner dramor. Felly, nid yn unig mae’r EMA yn gymhwyster ôl-raddedig a gydnabyddir, ond mae’n ychwanegu profiad o astudio dramor, gan wella buddion cyflogadwyedd y cymhwyster.