- Disgrifiad
Mae'r rhaglen hon yn darparu cyfle i ddysgu'r egwyddorion damcaniaethol sydd wrth wraidd rheoli prosiectau a datblygu'r wybodaeth a'r sgiliau hollbwysig i'w cymhwyso mewn proffesiynau cysylltiedig.
Nod yr MSc mewn Rheoli Prosiectau yw darparu hyfforddiant cadarn i chi, gan gynnwys sylfeini, modelau, offer a thechnegau rheoli prosiectau, wrth ymgorffori elfennau hanfodol dadansoddi data a systemau data mawr, gan eich galluogi chi i fod yn rheolwr prosiectau gwybodus.
Byddwch chi'n astudio mewn cyfleusterau sy'n arwain y sector yn yr Ysgol Reolaeth, gan elwa o ymchwil bresennol a rhagoriaeth addysgu ym meysydd dadansoddi data mawr a dadansoddi data. Byddwch chi'n cael eich addysgu gan academyddion sydd â phrofiad ym myd diwydiant ym maes rheoli prosiectau ac sydd wedi cyhoeddi ymchwil flaenllaw yn y maes hwn.
Ar y cyd â hyn, byddwch chi'n gallu gweithio gyda grwpiau ymchwil sefydledig yr Ysgol ym meysydd strategaeth, rheoli gweithrediadau, rheoli prosiectau a modelu busnesau, gan gynnwys dadansoddi ariannol a chynllunio ariannol strategol.
Bydd cydweithredu â byd diwydiant yn rhan hanfodol o'r rhaglen hon. Byddwn ni'n sefydlu cysylltiadau agos â'r sectorau gweithgynhyrchu, peirianneg, awyrofod ac adeiladu, a byddwn ni'n hyrwyddo cyfleoedd i arbenigwyr yn y maes gyflwyno darlithoedd gwadd. Bydd hyn yn eich galluogi chi i ennill gwybodaeth hollbwysig am y diwydiant a dysgu'n uniongyrchol gan ymarferwyr arbenigol.
Unwaith y bydd y rhaglen wedi cael ei sefydlu, ein gobaith yw y bydd yn ennill achrediad gan gorff proffesiynol sef Cymdeithas y Rheolwyr Prosiect (APM).
- Pynciau sy'n Debygol o Gael eu Trafod
Nod y rhaglen yw rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau hanfodol y mae eu hangen arnoch chi er mwyn i chi gynllunio prosiectau, eu rhoi ar waith a'u rheoli'n effeithiol.
Bydd y radd Meistr hon yn rhoi llawer o gyfleoedd i chi ddatblygu sgiliau uwch; defnyddio'r offer a'r technegau dadansoddi sy'n berthnasol i ddamcaniaeth rheoli prosiectau ar draws amrywiaeth o ddiwydiannau.
Yn ystod eich astudiaethau, bydd y rhaglen yn ceisio hyrwyddo meddwl yn strategol, gan eich galluogi chi i ddefnyddio arfer gorau yn y diwydiant a gwella eich sgiliau arweinyddiaeth; meithrin galluoedd rheoli tîm hanfodol a fydd yn eich paratoi ar gyfer gyrfa lwyddiannus.
Mae pynciau dangosol yn cynnwys:
- Rheoli prosiectau/Rheoli prosiectau uwch
- Rheoli Adnoddau Ariannol
- Strategaeth
- Dadansoddeg Fusnes
- Arweinyddiaeth
Erbyn i chi gwblhau'r rhaglen, byddwch chi wedi meistroli'r broses o reoli prosiectau, gan gynnwys meddwl am syniadau, cynllunio, rheoli risgiau a chyllidebu, rheoli amser wrth gyflwyno'r prosiect, rhoi'r prosiect ar waith a monitro a gwerthuso, gan gwmpasu'r holl sbectrwm o reoli prosiectau.
- Dyddiad Cychwyn Bwriededig
- Medi 2025
Cwblhewch y ffurflen isod fel y gallwn yrru mwy o wybodaeth atoch am y rhaglen radd hon pan ddaw ar gael e.e. modiwlau, ffioedd, dyddiad dechrau ayyb.