Rydym yn falch o ddarparu profiad addysgol rhagorol, gan ddefnyddio'r ymagweddau dysgu ac addysgu mwyaf effeithiol, wedi'u teilwra'n ofalus i ddiwallu anghenion penodol eich cwrs. Addysgir ein cyrsiau wyneb yn wyneb, ar y campws, sy’n eich galluogi i ymgysylltu'n llawn â'ch darlithwyr a'ch cyd-fyfyrwyr.
Mae sesiynau sgiliau ymarferol, seminarau, a gweithdai yn cael eu cynnal wyneb yn wyneb fel arfer, gan hwyluso gwaith grŵp a chyflwyniadau. Fodd bynnag, mae ein hymagwedd hefyd yn cynnwys rhywfaint o ddysgu ar-lein i ategu ac atgyfnerthu addysgu wyneb yn wyneb traddodiadol.
Efallai y bydd dysgu ar-lein yn digwydd yn 'fyw' gan ddefnyddio meddalwedd fel Zoom, a fydd yn eich galluogi i ryngweithio â'r darlithydd a'ch cyd-fyfyrwyr ac i ofyn cwestiynau. Mae recordiadau o ddarlithoedd hefyd yn cynnig mwy o hyblygrwydd i ail-edrych ar ddeunydd, adolygu ar gyfer asesiadau a gwella’ch dysgu y tu allan i'r ystafell ddosbarth. Mae gan rai modiwlau adnoddau ychwanegol yn ein hamgylchedd dysgu rhithwir (Canvas), megis fideos, sleidiau a chwisiau sy'n hwyluso astudio pellach hyblyg.
Mae strwythur y cwrs amser llawn wedi’i rannu ar draws y flwyddyn gan gynnig tri modiwl ym mhob semester academaidd (cyfanswm o chwe modiwl yn rhan un) a thraethawd hir dros yr haf (rhan dau). Mae myfyrwyr yn astudio dau fodiwl gorfodol i ddatblygu eu sgiliau ymchwil gan eu paratoi ar gyfer eu traethawd hir, ynghyd ag o leiaf un modiwl mewn iaith hynafol a thri modiwl dewisol. Caiff y traethawd hir ei ysgrifennu ar bwnc ymchwil arbenigol o’ch dewis.
Mae myfyrwyr rhan-amser yn astudio un modiwl gorfodol i ddatblygu eu sgiliau ymchwil gan eu paratoi ar gyfer eu traethawd hir, ynghyd ag iaith a modiwl dewisol yn eu blwyddyn gyntaf; yn eu hail flwyddyn, maen nhw'n astudio modiwl sgiliau ymchwil ychwanegol a dau fodiwl dewisol (sy'n gallu cynnwys astudiaethau iaith ychwanegol) a byddant yn ysgrifennu eu traethawd hir dros yr haf.