Trosolwg o'r Cwrs
Mae'r MA yn y Cyfryngau Digidol, Diwylliant a Chymdeithas yn archwilio gorffennol, presennol a dyfodol lliwgar y cyfryngau digidol.
Mae'r cwrs hwn, sy'n ddelfrydol i raddedigion diweddar neu weithwyr proffesiynol presennol, yn cynnig cipolwg cyfoes newydd ar brif faterion cymdeithas heddiw, gan fanteisio ar ein harbenigedd ym maes astudiaethau'r cyfryngau a chyfathrebu.
Byddwch yn archwilio busnes a gwleidyddiaeth cyfryngau digidol gydag academyddion arweiniol, gan gyfuno safbwyntiau damcaniaethol a chymhwysol i roi fframwaith cadarn i chi ddeall dadleuon cyfoes.
Hefyd, ystyrir tueddiadau academaidd wrth astudio'r cyfryngau digidol a thechnoleg, a'r methodolegau ymchwil cyffredin sy'n briodol i'r maes ac a ddymunir gan gyflogwyr.