Trosolwg o'r Cwrs
Mae'r MA mewn Hanes a Threftadaeth Cyhoeddus yn rhaglen hyblyg sydd wedi'i chynllunio i gynnig hyfforddiant academaidd, i'r rhai hynny sydd â diddordeb mewn gyrfaoedd ymchwil, a'r sgiliau cyflogadwyedd perthnasol y mae eu hangen ar gyfer y sector treftadaeth.
Mae ystod o fodiwlau ysgogol yn cwmpasu pynciau fel astudiaethau amgueddfeydd, treftadaeth gwrthdaro, Eifftoleg, gwareiddiadau hynafol, astudiaethau canoloesol, a hanes cyfoes.
Drwy gydol eich astudiaethau, fe'ch anogir i feithrin eich ymwybyddiaeth ddadansoddol a methodolegol o gysyniadau allweddol, a dulliau o gyfleu'r gorffennol i wahanol gynulleidfaoedd cyhoeddus. Byddwch chi hefyd yn dysgu mwy am hanes treftadaeth, a rôl fywiog hanes a threftadaeth cyhoeddus mewn dadleuon byd-eang.
Byddwch yn tynnu ar arbenigedd ysgolheigion a gydnabyddir yn rhyngwladol ac yn cael profiad ymarferol drwy raglen lleoliadau gwaith. Mae'r sefydliadau rydyn ni'n gweithio gyda nhw yn cynnwys yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Cadw, yr Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd, ac amgueddfeydd, archifau ac orielau ledled de Cymru. Gallech hefyd weithio gydag elusennau, prosiectau treftadaeth lleol, a sefydliadau ymchwil.
Yn ail ran y cwrs, cewch ddewis cwblhau prosiect traethawd hir ymarferol gwerth 60 credyd, neu brosiect traethawd hir ysgrifenedig gwerth 60 credyd.