Trosolwg o'r Cwrs
Oes gennych ddawn am drin ffigurau ac awydd am yrfa fel cyfrifydd? Mae'n broffesiwn gyda galw. Mae’n cynnig lefel uchel o ddiogelwch swydd, cyflogau da a llawer o rolau diddorol i ddewis ohonynt mewn amrywiaeth o sectorau.
Bydd y cwrs MSc Cyfrifeg a Chyllid Rhyngwladol ym Mhrifysgol Abertawe yn eich helpu i ddatblygu dealltwriaeth estynedig a manwl o bynciau allweddol ym maes cyfrifeg a chyllid a fydd yn rhoi hwb i'ch rhagolygon gyrfa yn y dyfodol.
Does dim angen cefndir mewn cyfrifeg neu gyllid arnoch i astudio’r cwrs trosi blwyddyn o hyd hwn. Mae wedi'i gynllunio i adeiladu ar eich astudiaethau israddedig a rhoi llwybr carlam i’ch galluogi i ffynnu yn y proffesiwn rydych wedi'i ddewis, unrhyw le yn y byd.
Mae'r rhaglen wedi'i hachredu gan Gymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig (ACCA) ac mae'n cynnwys eithriad o hyd at saith o arholiadau sylfaenol y Gymdeithas. Mae hyn yn seiliedig ar eich dysgu blaenorol ac mae'n golygu na fydd rhaid i chi astudio'r un pynciau rydych chi wedi'u dysgu eisoes.
Yn ogystal, mae gan yr Ysgol Reolaeth gysylltiadau cryf â'r Sefydliad Ariannol Siartredig (CFA), Sefydliad y Bancwyr Siartredig, Sefydliad Siartredig y Cyfrifwyr Rheoli (CIMA), y Sefydliad Siartredig ar gyfer Gwarantau a Buddsoddi a Sefydliad y Cyfrifwyr Siartredig yn Lloegr a Chymru (ICAEW). Bydd y cysylltiad agos hwn â chyrff proffesiynol yn gwella'ch rhagolygon gyrfa ac yn rhoi mantais i'ch galluogi i ffynnu ym myd cystadleuol heddiw.