Trosolwg o'r Cwrs
A hoffech fod yn arweinydd marchnata llwyddiannus yn y dyfodol? A ydych yn arloesol, yn gweithio'n dda mewn tîm ac yn gyfathrebwr gwych? A hoffech sefyll allan a symud ymlaen yn gyflym i yrfa farchnata anhygoel yn unrhyw le yn y byd?
Bydd y cwrs gradd Marchnata Strategol ym Mhrifysgol Abertawe yn rhoi sylfaen i chi ar gyfer gyrfa lwyddiannus. Byddwch yn meithrin sgiliau marchnata a strategaeth lefel uchel, ynghyd â dealltwriaeth feirniadol o'r materion a'r heriau presennol mewn diwydiant sy'n datblygu'n barhaus.
Byddwch hefyd yn datblygu sylfaen gadarn o ran yr agweddau ymarferol a damcaniaethol ar farchnata cyfoes, gan gynnwys dealltwriaeth a gwerthfawrogiad manwl o faterion moesegol perthnasol a chyfrifoldeb cymdeithasol; er mwyn i chi feddu ar y sgiliau a'r adnoddau a fydd yn eich galluogi i chwarae rhan werthfawr yn y gwaith o sicrhau economi gynaliadwy, gynhwysol ac arloesol ar gyfer y dyfodol.
Pan gwblheir elfennau addysgedig y cwrs, cewch y cyfle i gwblhau prosiect marchnata seiliedig ar waith, gan eich galluogi i gymhwyso'r sgiliau a'r wybodaeth sydd wedi'u meithrin mewn sefyllfa go iawn.
Er mwyn astudio ar y rhaglen arbenigol hon, rhaid bod gennych radd israddedig mewn disgyblaeth berthnasol.
Mae’r cwrs wedi’i achredu gan y Sefydliad Marchnata Siartredig (CIM), sef corff proffesiynol yn y DU sy’n cynnig hyfforddiant a chymwysterau ym maes marchnata ac mewn meysydd busnes cysylltiedig. Bydd eich gradd yn cynnwys modiwlau sy’n eich eithrio rhag gorfod ennill cymwysterau proffesiynol CIM drwy’r raglen radd gydag achrediad CIM. Mae’r rhaglen wedi’i llunio yn unol â Diploma Ôl-raddedig CIM a bydd yn rhoi cyfle i chi ennill statws siartredig ar ôl i chi gwblhau’r aseiniadau gydag achrediad CIM yn llwyddiannus.