Cwestiynau Cyffredin
C. Pryd ydw i’n gallu dechrau’r ymweliad?
A. Yn ystod y cyfnod cofrestru ym misoedd Hydref, Ionawr, Ebrill a Gorffennaf fel y bo’n berthnasol. Rydym yn derbyn llawer o ddiddordeb yn y rhaglen yma, ac felly nid yw’n bosib addo lle i bob ymwelydd cyn ystyried pob cais, a gynhelir drwy broses gystadleuol.
C. A oes angen i mi dalu ffioedd i ddod i ymweld â Phrifysgol Abertawe?
A. Mae ceisiadau i ymweld â ni am hyd at 6 mis yn rhad ac am ddim. Mae’n bosib y codir tâl rhwng 50% a 70% o gost y ffioedd dysgu am y PhD perthnasol, pro-rata i ymweld â’r Brifysgol am dros 6 mis. Mae’r union swm (am ymweliadau rhwng 6 a 12 mis) yn cael ei nodi yn y llythyr cynnig
C. Ydy’n bosib hepgor costau sydd wedi eu dynodi yn y llythyr cynnig? (Ymweliadau 6-12 mis)
A. Er mwyn sicrhau chwarae teg i bob myfyriwr sydd am ymweld â’r Brifysgol, rydym yn codi tâl lle bo hynny’n bosib ym mhob achos ac felly nid yw’n bosib hepgor costau.
C. Beth yw gofynion iaith Saesneg y Brifysgol?
A. Am fwy o wybodaeth am ein gofynion iaith Saesneg, cliciwch yma. Mae ein gofynion iaith Saesneg yn dibynnu ar y maes ymchwil, ac yn cael eu dynodi’n glir yn y llythyron cynnig. Mae myfyrwyr gyda chynnig amodol yn gallu sefyll arholiad Saesneg SWELT y Brifysgol yn rhad ac am ddim (am y tro cyntaf).
C. Rwyf yn fyfyriwr rhyngwladol/tramor, a oes angen i mi gyflwyno cais am Fisa?
A. Am fwy o fanylion ynglŷn â dod i’r DU i astudio, cliciwch yma.
C. Ar ôl cofrestru, ydw i’n gallu ymestyn yr ymweliad hyd at 6 mis, i dros 6 mis?
A. Ar ôl cofrestru, yn anffodus nid yw’n bosib ymestyn eich ymweliad hyd at 6 mis, i dros 6 mis.
C. Pryd dylwn i gyflwyno cais am fy ymweliad?
A. Rydym yn derbyn ceisiadau unrhyw bryd, fodd bynnag, i ganiatáu cwblhau ein proses ymgeisio/dewis ac ar gyfer amodau cynigion, ceisiadau posib am fisa a chwblhau cymeradwyo ATAS, rydym yn argymell eich bod yn cyflwyno cais dim hwyrach na thri mis cyn dyddiad arfaethedig dechrau’r ymweliad.